.

Cân y di-lais i British Telecom

 

‘Ga i rif yng Nghaerdydd, os gwelwch…’

‘Speak up!’ ‘GA I RIF YNG NGHAER-‘

‘Speak up- you’ll have to speak up’. Siarad lan , wrth gwrs, yw’r siars
I siarad Saesneg.
Felly, dedfrydaf fy hun i oes
O anneall, o ddiffyg llefaru,
Ynganu, na sain, na si
Na goslef, heb son am ganu,
Chwaith fyth goganu, llafarganu,
Di-lais wyf, heb im grasnodau
Na mynegiant, na myngial.

Cans nis oes im lais litani’r hwyr,
Dim llef gorfoledd boreol,
Nac egni cryg sy’n cecian yn y cyfnos.
Atal dweud? Na. Dim siarad yn dew,
Dim byrdwn maleisus, na moliannu.

Ac os nad oes llef gennyf i
Ofer yw tafodau rhydd fy nheulu,
Mudanwyr ym, mynachod,
Sy’n cyfrinia mewn cilfachau.

Ym mhellter ein bod hefyd
Mae iaith yr herwr
Yn tresmasu, ei sang yn angel du,
Gyrru’r gwaraidd- ar ffo.

Wrth sbio’n saff, ar y sgrin fach
Gwelaf fod cenhedloedd mewn conglau mwy
Yn heidio’n ddieiddo;
Cadachau dros eu cegau,
Cyrffiw ar eu celfyddyd,
Alltudiaeth sydd i’w lleisiau,
A gwelaf fod y Gymraeg rhyngom ni.

A’r tro nesa y gofynnir imi
‘Siarad lan’,
Yn gwrtais, gofynnaf i’r lleisydd
‘Siarad lawr’,
I ymostwng i’r gwyleidd-dra
Y gwyddom amdano, fel ein gwyddor.
Ac fel ‘efydd yn seinio’ Awgrymaf, nad oes raid wrth wifrau pigog,
Bod i iaith ‘wefrau perlog’,
A chanaf, cyfathrebaf
Mewn cerdd dant,
Yn null yr ieithoedd bychain;
Pobl yn canu alaw arall
Ar draws y brif don,
Er uched ei thraw,
Gan orffen bob tro
Yn gadarn , un-llais,
Taro’r un nodyn- a’r un nwyd,
Gan mai meidrol egwan ein mydrau.

‘A nawr, a ga i-
Y rhif yna yng Nghaerdydd.