.

Cyplau

 

Murddun yw byw. Ninnau, mynnwn ei drwsio
at ddiddosrwydd. Gyda'n dwylo ei saernïo

at frig adeilad. Nes clymu o dano nenbren
a wylia holl fynd a dod ein byw heb wybren.

Dau rwymyn cam. Naddwyd hwy yn gyfan
yn gyffion cytun. Yn drawstiau llyfn a llydan.

Cyfarfod dau. Dyna'r grefft a fagwn wrth amgau
dros ffrâm ddau gnawd. Gan asio'r llyfnus gyplau

sydd weithiau'n enfysu'n un. Ar ogwydd, uwch yr oerfyd
geubrennau'n chwiffio serch. Yna'n stond am ennyd.

A'r to mor elwig ar dro yn gwichian cariad
wrth ddwrdio'r gwynfyn draw. I aros tro ei gennad.