.

Colofnydd | Columnist

 

Mae Menna Elfyn yn golofnydd gyda phapur y Western Mail.
/ Menna Elfyn is a columnist with the Western Mail.

 

Colofn - Western Mail, 28 Gorffennaf 2016

 

Ar drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni, dyna braf yw meddwl y bydd yna un enw ar flaen fy nhafod yn ystod yr wythnos yno. A hynny am y byddaf yn lansio cyfrol newydd a luniais sef cofiant o waith a bywyd y Prifardd Eluned Phillips, a’r unig ferch i ennill dwy goron yn y Steddfod yn ystod yr ugeinfed ganrif. Cyhoeddir Optimist Absoliwt, teitl y gyfrol, a geiriau Eluned i ddisgrifio ei phersonoliaeth gan Wasg Gomer. Bydd Eluned felly yn bresennol yno rhwng dau glawr.

Dim ond dwy Eisteddfod a gollodd rhwng 1936 a 2009 pan fu farw yn 94 mlwydd oed, a ‘r troeon hynny oherwydd dwy ddamwain car ddifrifol. Mae hynny yn dipyn o record ac yn dangos ei ffyddlondeb i’r Eisteddfod ‘ er gwaethaf pawb a phopeth’ i gael adleisio geiriau Dafydd Iwan.

Beth tybed sy’n gwneud cofiannau i’r rhan fwyaf ohonom mor ddiddorol i’w darllen? A beth sy’n eu gwneud mor llwyddiannus yn Gymraeg? Yr hyn sy’n ddymunol yw ei fod yn caniatáu i unigolion o bob maes a diddordeb fynd ati i adrodd hanes eu bywydau. Ac mae’n ddull democrataidd hefyd sy’n galluogi unrhyw un i fynd ati i gofnodi hanes ei fywyd neu ei bywyd.

Dywedodd yr awdur Americanaidd Don DeLillo unwaith bod awdur ffuglen yn cychwyn gyda rhyw ystyr ac yna’n creu digwyddiadau i’w cynrychioli tra bo’r sawl sy’n ysgrifennu ei hunangofiant yn cychwyn gyda digwyddiadau ac yna’n ceisio dod o hyd i ryw ystyr iddynt. Dywed awdur arall ei fod fel bwrw eich hunan yn anymwybodol gyda’ch dwrn eich hunan. A do, bu adegau pan oedd ysgrifennu hanes Eluned yn fath ar hunan-anafu fel toriadau ar fy nghroen. Ar adegau eraill, cawn fy hunan yn chwerthin yn uchel am sylw neu ddigwyddiad yn ei phapurau personol. A llonni drachefn at y fenyw ryfeddol hon.

Un peth sy’n sicr, roedd hi’n berson a fu yn gydymaith imi mewn ysbryd am yn agos i ddwy flynedd. Yr wythnos diwethaf cefais gyfle i adrodd amdani yn Harvard mewn cynhadledd yno a byddai yn sicr wedi teimlo balchder i mi rannu ei hanes yn y fan honno o gofio mor hoff ydoedd o America yn negawdau olaf ei bywyd.

Ni fyddwn wedi ysgrifennu cyfrol gyfan amdani oni bai i gymydog iddi ddod ataf mewn siop yng Nghaerfyrddin flwyddyn a hanner yn ol yn dilyn colofn a luniais amdani yn y papur hwn gan ddweud ‘Diolch ichi am ysgrifennu amdani—chi’n gweld doedd ganddi neb – neb yn gefen iddi’.

Wrth ymchwilio i’w hanes dywedodd un arall wrthyf iddi ddweud ‘Falle y bydd rhywun ar ôl i fi fynd yn dweud y gwir amdana i’. Y gwir yn erbyn y byd? Efallai yn wir, ond beth yw gwirionedd?