Bywgraffiad

Mae Menna Elfyn yn fardd a dramodydd arobryn sydd yn ysgrifennu yn Gymraeg. Cafodd ei gwaith ei gyfieithu i ddeunaw o ieithoedd. Cyhoeddodd bedair cyfrol ar ddeg o farddoniaeth, nofelau i blant, libretti ar gyfer cyfansoddwyr o’r Unol Daleithiau ac yng ngwledydd Prydain yn ogystal â dramâu ar gyfer y teledu a’r radio. Ei chyfrolau diweddaraf o farddoniaeth yw Bondo 2017 a Murmur 2012 o wasg Bloodaxe. Dewiswyd yr olaf Murmur a’i chymeradwyo fel cyfrol mewn cyfieithiad gan y Gymdeithas Llyfrau ym maes barddoniaeth. Dyma’r tro cyntaf erioed i gyfrol Gymraeg / Saesneg  gan fardd unigol gael ei dewis o’r holl gyfrolau o wahanol ieithoedd a ystyrir yn dymhorol ganddynt.

Ei chyfrol ddiweddaraf yn Gymraeg yw Merch Perygl, 2011 a bydd cyfrol newydd o farddoniaeth Gymraeg yn ymddangos gyda Gwasg Barddas yn 2022. Enillodd ei chyfrol Aderyn Bach mewn Llaw, 1990, wobr Cyngor y Celfyddydau am y flwyddyn honno, a bu Cusan Dyn Dall/ Blind Man’s Kiss ,2001, ar restr fer Llyfr y Flwyddyn. Yn 2003, gyda’i chyd-olygydd John Rowlands, ymddangosodd  Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry, ac enillodd unwaith eto gymeradwyaeth Poetry Book Society Recommended Translation.

Enillodd ysgoloriaeth Cymru Greadigol gan Gyngor y Celfyddydau i ysgrifennu am ‘Cwsg’ , a chyhoeddwyd y gyfrol honno yn Nhachwedd 2019. Ysgrifennodd Fywgraffiad  o waith a bywyd Eluned Phillips, Optimist Absoliwt  a ymddangosodd yn 2016 o wasg Gomer ac yna  ymddangosodd  Absolute Optimist yn Saesneg o Wasg Honno yn 2018. Yn Ngorffennaf 2021, ymddangosodd nofel o waith Eluned Phillips, Cyfrinachau  o Wasg Honno, cyfrol oedd wedi ei golygu ganddi a ysgrifennodd ragarweiniad i’r gyfrol honno. Yn 2021, hefyd ymddangosodd Dal i Fod o wasg Barddas, sef cyfrol o waith Elin ap Hywel, unwaith eto, golygodd y gyfrol honno a chasglu’r cerddi ynghyd.

Bu’n golofnydd i’r ‘ Western Mail’ ers 1995. Yn ystod y saithdegau a’r wythdegau bu’n ymgyrchu fel aelod o Gymdeithas yr Iaith  gan weithredu yn enw’r Gymdeithas honno a chafodd ei charcharu ddwywaith am weithgareddau di-drais dros yr iaith Gymraeg. Fel ymgyrchydd heddwch, cafodd ei harestio ym Mreudeth yn ystod yr wythdegau fel rhan o ymgyrch CND ar y pryd. Mae bellach yn Llywydd Anrhydeddus  PEN Cymru gan ymgyrchu dros hawliau awduron ledled y byd.

Ysgrifennodd nifer o libreti a’r un mwyaf diweddar yw’r opera Gair ar Gnawd gyda’r cyfansoddwr Pwyll ap Siôn. Cafodd ei chomisiynu gan Opera Cenedlaethol Cymru a’i darlledu ar S4C yn 2015. Yn 1999, lluniodd libreto ‘Garden of Light’ a berfformiwyd  gan Gerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd fel rhan o  ddathliadau’r  Mileniwm. Cyfansoddodd hefyd eiriau i gylch o ganeuon ar gyfer y cyfansoddwr Karl Jenkins fel rhan o ddathliadau agoriadol  Canolfan y Mileniwm yn 2004 yn ogystal â chyfansoddi libreti ar gyfer cyfansoddwyr eraill megis Hilary Tann ac Andrew Powell, cyfansoddwr arobyn mewn sawl maes.

Fel eirolydd dros hawliau plant, ysgrifennodd Hands Off a Dim Llais i Drais fel rhan o brosiect Cronfa Achub y Plant a Chymorth i Fenywod. Ysgrifennodd ddwy nofel, Madfall ar y Mur, stori am blant y stryd yn Mexico, a hefyd Rana Rebel, hanes merch sy’n cael ei hun yn filwr bychan yn ymysg terfysgoedd. Cyhoeddwyd hefyd Pussaka Hud fel rhan o brosiect Ewropeaidd gan weithio ar y cyd gyda phedwar awdur arall o wledydd  Ewropeaidd. Fe’i gwnaed yn Fardd Plant Cymru yn 2002-3.

Mae’n  Gymrawd y canlynol: Y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol, Y Gronfa Lenyddol Frenhinol, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Aberystwyth a’r Gymdeithas Ddysgedig yng Nghymru. Mae hi bellach yn Athro Emerita Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Cymrawd Anrhydeddus.

Athro Emerita Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Cymrawd Prifysgol Aberystwyth

Cymrawd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Cymrawd  Cymdeithas Frenhinol  Lenyddol

Cymrawd Y Gronfa Lenyddol Frenhinol

Cymrawd  Y Gymdeithas Ddysgedig yng Nghymru

Llywydd Wales PEN Cymru

Pin It on Pinterest

Share This