First published in a fortnightly column in the Western Mail, 12 September 2024.
‘Ti’n gwybod lot o eiriau a ti’n eu cofio nhw i gyd’ medd fy wyres un noson ar ôl gorfod dod i wrando arnaf yn darllen barddoniaeth yn rhywle. Wrth gwrs cofio geiriau yw rhagamod a hanfod ysgrifennu – eu cadw i anadlu– yn fyw ac effro. Dyna pam y ffolais rai dyddiau nôl wrth ganfod hen lyfr mewn siop elusen ’ Cyfystyron y Gymraeg’ gan Griffith Jones, a gyhoeddwyd yn 1888. Gwefr o lyfr wir. Yn iau, roedd gen i lyfr tebyg wrth geisio dysgu tri gair newydd bob dydd er i rai ohonynt hen ddiflannu oddi ar dafod lleferydd. Ond hyn sy’n rhodd i fardd yw gallu golchi’r geiriau’n lân unwaith eto a’u gwisgo o’r newydd. Gyda llaw, mae fy obsesiwn am eiriau, yn deillio o’m plentyndod. Byddai fy nhad yn aml wrth inni eistedd wrth y bwrdd cinio neu swper yn codi ar ganol pryd bwyd pe bai i un ohonom blant yn seinio gair yn Saesneg. Ai wedyn i’w stydi a dychwelyd gyda ‘ Bodfan ‘ yn ei law a dangos inni’r gair Cymraeg am ba air bynnag inni ei lefaru.
Ond wrth sôn am eiriau cyfystyr, dyma droi ac edrych ar y gair ‘ heddwch—hy-edd ac yna –tangnefedd, llonyddwch, tawelwch. A dyma feddwl eto am ‘ heddwch’, y gair neis-neis sy’n cael ei daflu allan fel ffordd o deimlo’n rhinweddol. Ond fel y dywedodd Daniel Berrigan, yr ymgyrchydd a mynach o America ‘mae gweithio dros heddwch mor galed â rhyfela’. Bu yn y carchar am ddeunaw mis am geisio atal rhyfel Vie-Nam. Oes hawl gyda ni i alw felly ein hunain yn heddychwyr heb weithredu?
Dyna fu hanes ‘Fy enw i yw Rachel Corrie’, merch 23 mlwydd oed o America a laddwyd yn Rafah yn 2003 ac ymgyrchydd/ heddychwraig gyda’r Mudiad Solidariti. Bydd y ddrama yn dwyn ei henw yn cael ei pherfformio yn Galeri, Caernarfon ar Hydref 16 ain ac yna yn y Sherman ar Hydref 18. Dyma’r ddrama anoddaf erioed imi ei chyfieithu . Er y bu farw ym mis Mawrth yn 2003 rai dyddiau nôl lladdwyd merch ifanc arall 26 mlwydd oed o’r Unol Daleithiau ac o dras Twrcaidd ger Nablus. Amgylchiadau tebyg i’r ferch o Olympia Washington. A’r ymateb gan fyddin Israel? ‘ Highly likely’ ei bod wedi ei lladd wrth iddynt geisio targedu rhywun arall! Ond roedd y brotest drosodd meddai trigolion y lle. Heddychwraig oedd hithau yno’n protestio yn erbyn strydoedd yn cael eu dymchwel ( pam strydoedd?). Dychmygwch yr hanes— ymgyrchwyr di-drais wedi eu lladd gan fomiau eu llywodraeth yn America . Fel Rachel, fel Aysenur –enwau yn fy nghof bellach ac sy’n newid ystyr –beth yw heddwch? Geiriau y bydd fy wyres gobeithio yn dysgu amdanynt a bydd hithau’n cofio’u henwau.