Fy Enw i yw Rachel Corrie (16 – 19 Hydref 2024)

Sep 20, 2024

Fy enw i yw Rachel Corrie

Yr hydref hwn, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnal pecyn o waith sy’n codi ymwybyddiaeth am yr argyfwng dyngarol presennol yn Gaza ac yn creu cysylltiadau creadigol newydd rhwng pobl ifanc yng Nghymru a Phalesteina – gyda throsiad newydd i’r Gymraeg o’r ddrama My Name is Rachel Corrie a phrosiect creadigol gydag Theatr Ashtar, sef cwmni theatr cyffrous yn Ramallah, Palesteina.

Monolog dirdynnol yw Fy Enw i yw Rachel Corrie sy’n seiliedig ar ddyddiaduron ac e-byst ymgyrchydd ifanc Americanaidd, a laddwyd yn 2003 gan un o deirw dur Byddin Israel wrth iddi geisio amddiffyn cartref Palesteinaidd rhag cael ei ddymchwel. Mor berthnasol nawr ag erioed, mae’r ddrama yn dilyn siwrnai Rachel o fywyd swbwrbaidd i ganol gwrthdaro Israel-Palesteina ac yn disgrifio’r creulondeb a’r dyngarwch mae hi’n profi yn Gaza.

Mewn trosiad newydd gan y bardd a dramodydd arobryn Menna Elfyn, dyma’r tro cyntaf i’r ddrama hon gael ei chyflwyno yn y Gymraeg a hynny gyda’r actores Hannah Daniel yn ymddangos fel Rachel, dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly. Mae’r tîm creadigol hefyd yn cynnwys Maariyah Sharjil fel Cynllunydd Set a Gwisgoedd, Elanor Higgins fel Cynllunydd Goleuo a’r cerddor Prydeinig-Palesteinaidd Kareem Samara fel Cynllunydd Sain. Mae Jihan Rizqallah – y rheolwr llwyfan benywaidd cyntaf erioed o Balestina – hefyd yn ymuno â’r tîm.

Cyd-olygwyd y ddrama wreiddiol Saesneg gan Katharine Viner a’r ddiweddar Alan Rickman, ac fe’i berfformiwyd am y tro cyntaf yn 2005 yn Theatr y Royal Court yn Llundain. Mae’r ddrama bellach wedi’i pherfformio mewn ugain o wledydd, gan gynnwys Israel, ac wedi’i chyfieithu i ddeuddeg iaith.

Wrth drafod trosi geiriau Rachel i’r Gymraeg, dywedodd Menna Elfyn:

“Wrth imi gyfieithu’r ddrama hon, roedd newyddion yn dod i law o ‘Rachel Corrie’ arall – Aysenur Ezgi Eygi, ymgyrchydd Twrcaidd-Americanaidd a gafodd ei saethu yn ei phen yn y West Bank ym mis Medi 2024. Dyna pam y mae’r ddrama mor rhagweledol ac o dragwyddol bwys yn y byd hwn. Byddwch yn barod i deimlo’n drist ond byddwch yn barod hefyd i lawenhau am ymdrech a delfrydiaeth merch ifanc a oedd am achub y byd ond a fethodd achub ei hun yn sgil terfysg un o fannau mwyaf cythryblus y byd”

Ochr yn ochr â chyflwyno dangosiadau o Fy Enw i yw Rachel Corrie, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn gweithio gyda Theatr Ashtar i feithrin cysylltiadau creadigol rhwng pobl ifanc o Gymru a Phalesteina. Yn defnyddio grym barddoniaeth fel iaith fyd-eang, bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai ar-lein dan arweiniad artistiaid o Balestina a Chymru, gyda’r bwriad o ddenu sylw i leisiau ieuenctid a meithrin dealltwriaeth rhyng-ddiwylliannol. Gyda chefnogaeth hefyd gan Llenyddiaeth Cymru, penllanw’r prosiect fydd creu cerdd tair-ieithog mewn Arabeg, Cymraeg a Saesneg, yn ogystal â ffilm fer sy’n cynnwys cyfranogwyr ifanc o Gymru a Phalesteina.

Mae cwmni Theatr Ashtar wedi bod yn gweithio ym Mhalesteina ers 1991, gan ddefnyddio theatr i greu newid cymdeithasol ac yn cynnig rhaglenni hyfforddiant theatr i bobl lleol a rhyngwladol. Ym mis Tachwedd 2023, lansiwyd brys gan Ashtar yn erfyn ar wneuthurwyr theatr ledled y byd i ddarllen neu berfformio The Gaza Monologues – tystiolaethau a ysgrifennwyd gan ieuenctid Ashtar yn 2010 a 2014 – yn gyhoeddus. Cynhaliwyd darlleniadau byw o’r monologau gan gannoedd o grwpiau proffesiynol ac amatur ar draws 60 gwlad, yn ogystal â ffrydio’n fyw a rhyddhau darlleniadau wedi’u recordio ymlaen llaw. Er mwyn ymgysylltu ymhellach â’r gymuned greadigol fyd-eang, lansiodd Ashtar Theatre Letters to Gaza a chael ymateb byd-eang, gyda mwy na 70 o gyflwyniadau o lythyrau, cerddi, caneuon a mwy. Mae’r cwmni hefyd wedi bod yn codi arian i gynnal ymyriad lleddfu trawma seico-gymdeithasol i blant Palesteina, sydd hyd yma wedi cyrraedd 650 o unigolion gan gynnwys rhai o awduron Gaza Monologues sy’n cael eu cefnogi o bell.

Dywedodd Emile Saba, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Ashtar:

“Ry’n ni’n gyffrous yn Theatr Ashtar am y cydweithio pwysig yma gyda Theatr Genedlaethol Cymru, yn ystod cyfnod tyngedfennol i bobl Palesteina. Mae hunaniaeth, artistiaid a diwylliant Palesteinaidd yn cael eu hymosod arni a’u sensro, ac mae’r prosiect hwn yn llwyfan i gysylltiad dynol a rhannu profiadau a breuddwydion rhwng ieuenctid o Balesteina a Chymru i greu gofod diogel, i feddwl, i deimlo ac i ysgrifennu gyda’n gilydd. Gan gofio’r holl actifyddion, newyddiadurwyr ac artistiaid sy’n cysegru eu bywydau i’r genhadaeth o amddiffyn rhyddid ac urddas pobl.”

Mae’r perfformiadau a’r prosiect yma yn rhan o ddyhead Theatr Genedlaethol Cymru i greu gwaith Cymraeg sy’n mynd i’r afael â materion cyfoes a sgyrsiau byd-eang. Bwriad y cwmni yw hwyluso a chreu gofod am ragor o drafodaethau cyfrwng Cymraeg ynglŷn a’r argyfwng dyngarol presennol sy’n wynebu mwy na ddwy filiwn o bobl yn Gaza (eu hanner yn blant).

Dywedodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni:

“Mae gwaith theatr sy’n mynd i afael â materion cyfoes a sgyrsiau byd-eang yn bwysig yn y Gymraeg. Mae’n cynnig cyfleoedd i ddechrau sgyrsiau ac i wella ein dealltwriaeth o’r byd. Llwyfannwyd My Name is Rachel Corrie am y tro cyntaf bron 20 mlynedd yn ôl yn galw am newid, ac yn anffodus mae mor berthnasol nawr ag erioed. Gyda’r rhyfel yn parhau, mae’n ddyletswydd arnom ni i godi’n lleisiau, hwyluso sgyrsiau a denu sylw at yr argyfwng dyngarol sy’n wynebu pobl Gaza. Yn defnyddio theatr i greu newid diwylliannol, mae gwaith angenrheidiol Theatr Ashtar wedi fy ysbrydoli ers blynyddoedd. Felly mae cydweithio efo nhw a phobl ifanc Cymru a Phalesteina yn fraint. Mi fydd yn brosiect arbennig a gofalgar fydd yn cynnwys cyd-greu cyffrous a rhannu diwylliannau ac ieithoedd – gyda neges heddwch wrth ei galon.”

Bydd Fy Enw i yw Rachel Corrie yn cael ei gyflwyno mewn tri lleoliad: Galeri Caernarfon ar 16 Hydref, Theatr y Sherman (Caerdydd) ar 18 Hydref a Chanolfan S4C yr Egin (Caerfyrddin) ar 19 Hydref. Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig tocynnau rhad i’r dangosiadau yma, er mwyn annog cynulleidfaoedd i gyfrannu at elusennau sy’n cefnogi’r rheiny sydd wedi’u heffeithio gan y rhyfel yn Gaza.

Mwy o wybodaeth + tocynnau >

Pin It on Pinterest

Share This