‘Trugaredd sy’n gwybod’

Dec 5, 2024

a close up of a fan on a person's head

Colofn Gymraeg bob pythefnos yn y Western Mail, cyhoeddwyd gyntaf ar 5 Rhagfyr 2024.

‘Trugaredd sy’n gwybod’ oedd un o ddywediadau ein teulu ni pan oeddwn yn blentyn. Fel arfer fe’i ddywedwyd pan oeddwn yn cam ymddwyn am rywbeth neu gilydd.  Cofio meddwl  o’i ddweud fy hunan  flynyddoedd wedyn — sut oedd trugaredd yn gwybod unrhyw beth? Onid gweithred oedd holl bwrpas trugaredd ?

Hynny ddaeth i’m meddwl wrth i mi wrando ar  sylwadau pwyllog,  dirdynnol gwleidyddion yn San Steffan yn trafod Cymorth neu’r hawl i farw o dan amgylchiadau arbennig. Fel sawl un arall, bum inne wrth erchwyn gwely aelod o’r teulu a gweld y nychu dyddiol (am chwe mis) yn hynod greulon hyd yn oed os medrwn glywed llais fy nhad yn dweud ‘Yn Dy Law y mae f’amserau’. Ond siawns na all hyd yn oed Duw ddeall y newid sydd i rai pethau yn y byd hwn?

Ydw, rwy o blaid y cynnig a basiwyd ac yn  falch o’r aelodau  seneddol o Gymru, o bob plaid a bleidleisiodd o’i blaid. Pob plaid, sylwch. Ydi, mae yna le i gytuno yn ein cyfnod eithafol o gwerylgar. Lle i wrando yn lle gweiddi. A barnu. Lle i faddau hefyd yn lle dymuno dialedd.

O law i law yr awn oll yn y diwedd, yn hwyr neu’n hwyrach gan ddymuno hedd, a dwylo tyner yn ein trin. Can llaw ? Onid ‘canllaw’ sydd eisiau ar bob un  ar ddiwedd ei h/oes. – cael canllaw dros bont i osgoi’r dyfnder a’r difancoll sy islaw.

Trugaredd yw’r gair olaf a glywir o enau Arlywydd nesa America, Donald Trump. Er bod  dileu ei achosion llys yn fater i mi ddweud yn uchel ‘ trugaredd sy’n gwybod’! Achos gwrthwyneb  y gair trugaredd yw dialedd i Trump, yn erbyn ei ‘ elynion,  gyda’i fab darogan newydd  Elon-  gair sy’n odli’n gras  gydag ‘elynion’.

Dyna pam y deallaf i Joe Biden  roi pardwn  i’w fab Hunter Biden rhag dicter  Trump a’i gyfeillion. Do, fe siomodd Biden lawer  o dorri ei addewid. Ond dyma ddyn a gollodd  wraig a’i ferch mewn damwain car – ef  yn ei ugeiniau, yna, colli ei fab Beau i  gancr rai blynyddoedd yn ôl. Yna, gweld Hunter yn gwella o grafangau  cyffuriau – pwy ohonom na fyddai am ddiogelu  unig fab yn erbyn dialedd dibendraw . Dychmygwch sut y teimlai pe gwelai  gefnogwyr  treisgar Trump ar Ionawr 6ed yn cael pardwn o’r troseddau mwyaf ofnadwy ?Ac yna’n erlid ei fab? Ai cael ei gofio fel Arlywydd ( aflwyddiannus efallai )  a fynnai neu fel tad a dosturiodd at  ei fab meidrol.

Ar ddiwedd  y dydd Ie, trugaredd sydd YN gwybod. Ebychiad  sy’n llawn o’r anwybod.  Dywediad enwog arall  ar yr aelwyd o feirniadu rhywun yn hallt oedd hyn: bydd yn drugarog,  mae bywyd yn galed ac ryn ni gyd yn ymladd brwydr galed!’Tosturi fo’r nod.

Pin It on Pinterest

Share This