Fy enw i yw Rachel Corrie

Fy enw i yw Rachel Corrie

Mawrth 2003. Lladdwyd Rachel Corrie – ymgyrchydd ifanc o America – gan darw dur Byddin Israel wrth geisio amddiffyn cartref Palestinaidd rhag ei ddymchwel.

Yn deillio o ddyddiaduron Rachel a’i e-byst adre at ei rhieni, dyma ddrama dirdynnol a hynod bersonol sy’n dilyn ei siwrnai o fywyd swbwrbaidd i ganol gwrthdaro Israel-Palestina. Wrth ddisgrifio’r creulondeb a’r dyngarwch mae hi’n ei weld yn Gaza, mae geiriau Rachel mor berthnasol nawr ag erioed ac yn galw arnom ni gyd i weithredu dros heddwch.

Wedi’i gyfarwyddo gan Steffan Donnelly a’i berfformio gan Hannah Daniel, dyma’r tro cyntaf i’r ddrama hon gael ei chyflwyno yn y Gymraeg gyda throsiad newydd gan Menna Elfyn. Mae’r tîm creadigol hefyd yn cynnwys Maariyah Sharjil fel Cynllunydd Set a Gwisgoedd, Kareem Samara fel Cynllunydd Sain ac Elanor Higgins fel Cynllunydd Goleuo.

Cyd-olygwyd y ddrama wreiddiol Saesneg gan Katharine Viner a’r diweddar Alan Rickman, ac fe’i berfformiwyd am y tro cyntaf yn 2005 yn Theatr y Royal Court yn Llundain. Mae’r ddrama bellach wedi’i pherfformio mewn ugain o wledydd, gan gynnwys Israel, ac wedi’i chyfieithu i ddeuddeg iaith.

Pin It on Pinterest