Casgliad Newydd: Mawrth 2019

wpengineUncategorized @cy

Murmuri
Cyfieithiad Murmur i’r Gatalaneg gan Sìlvia Aymerich i Lemos


Cawn rodd werthfawr gan Sìlvia Aymerich i Lemos: yn gyntaf ein cyflwyno i waith Menna Elfyn, ac yn ail, ei chyfieithiadau ysbrydoledig i Gatalaneg o gerddi y bardd enwog o Gymru. Mae teitl y casgliad yn cyfleu seiniau’r themâu amrywiol sy’n uno elfennau hanfodol y gyfrol: cyfieithir “murmuron” yn Gymraeg i “mur-mur”, sy’n cylchdroi o gwmpas un grŵp o’i cherddi gan chwarae ar eiriau fel yn y Gatalaneg, ac i “marmor”, “marbre” yn y gerdd gyntaf, “Gazal/Perdua. Mae Elfyn hefyd yn cynnwys iaith boblogaidd yn ei cherddi: teitlau storïau a chaneuon, dywediadau plant,cyfeiriadau at feirdd Cymraeg eraill; ac mewn gwaith blaenorol i Dylan Thomas y gerdd hyfryd sy’n cyfleu Thomas, ei awen, Elfyn ei hunan, a nawr Aymerich. O “Dysgu Cymraeg i Awen Dylan Thomas”, dyfynnaf: “ a bydd ei geiriau’n ddiferion o bistyll , yn codi fel adenydd sy’n hedeg.”

Ffurfir rhan o’i gwaith thematig gan gymeriadau llên-gwerin: y wraig gocos, mam a mam-gu glöwr yn aros am newyddion am y ddamwain yn y lofa. Mae pedair cerdd ar ddeg yn ddilyniant storïol, drasig hefyd, am Catrin Glyndŵr a’i phlant, wedi eu caethiwo yn y Tŵr cyn eu marwolaeth anesboniadwy a rhyfedd. Ceir adrannau eraill gyda cherddi byr, synhwyrus, i’r golau, i’r tywydd, i’w thad. Mae Aymerich yn dal yn delynegol, seiniau cyfnewidiol y cerddi gobaith “ Terisse” a’r cerddi o anobaith, “ Fillada”. Gall teitlau cerddi fod yn her i’r cyfieithydd; tra bod rhai yn hollol amlwg ( “ Une porta a Epynt”), rhaid dewis eraill yn ofalus rhag iddynt greu’r ddelwedd anghywir (“ Diners nets”). Mae eisiau gofal arbennig hefyd gydag onomatopoeia, ac mae Aymerich yn llwyddo’n gelfydd gyda dau ddarn byr o’r grŵp “ Murmuris”: “El sibòlet que es percep/ enl l’ “x” tan clara que l’enceta/els “xt”, compartits, que travessen llavis,/l’avis que el llenguatge és silence “ a “ El poetes viuen a cops de cor/desordenadament constants:/lub-dubs melòdics/que flueixen/en tons i dons diversos/en cada tram de sang.”

Wrth ddefnyddio amrywiaeth o ddelweddau megis arian, y Beibl, gwaith tŷ, mae’r bardd yn troi dro ar ôl tro at y tawelwch a geir ar wahanol achlysuron. I ddiweddu, dyfynnaf eiriau bardd arall sydd hefyd yn cyfansoddi cerddi mewn iaith leiafrifol, chwaer i’r Gymraeg: dyma eiriau’r bardd o Wyddel sy’n ymddangos ar glawr y llyfr: ‘Menna Elfyn is the firebird of the Welsh language, bright, indomitably modern and as undestructible as the phoenix. She gives hope to all writers in lesser spoken languages that great things can rise from the ashes.”
Boed parhad i’r berthynas arbennig sydd rhwng awduron ieithoedd lleiafrifol: casglwyd nifer o gerddi Cymraeg yn y gyfrol ddwyieithog Cymraeg/ Catalaneg, ‘Poesia gal.lesa actual’, sy’n cyflwyno detholiad eang ohonynt i ddarllenwyr Catalaneg ( Valencia, 1992). Hwyrach y bydd rhagor o gydweithio rhwng Catalonia a Chymru, gan drosglwyddo i’w gilydd gyfoeth y naill ddiwylliant a’r llall.