Cân y di-lais i British Telecom

‘Ga i rif yng Nghaerdydd, os gwelwch…’ 

‘Speak up!’ ‘GA I RIF YNG NGHAER-‘ 

‘Speak up- you’ll have to speak up’. Siarad lan , wrth gwrs, yw’r siars
I siarad Saesneg.
Felly, dedfrydaf fy hun i oes
O anneall, o ddiffyg llefaru,
Ynganu, na sain, na si
Na goslef, heb son am ganu,
Chwaith fyth goganu, llafarganu,
Di-lais wyf, heb im grasnodau
Na mynegiant, na myngial.

Cans nis oes im lais litani’r hwyr,
Dim llef gorfoledd boreol,
Nac egni cryg sy’n cecian yn y cyfnos.
Atal dweud? Na. Dim siarad yn dew,
Dim byrdwn maleisus, na moliannu.

Ac os nad oes llef gennyf i
Ofer yw tafodau rhydd fy nheulu,
Mudanwyr ym, mynachod,
Sy’n cyfrinia mewn cilfachau.

Ym mhellter ein bod hefyd
Mae iaith yr herwr
Yn tresmasu, ei sang yn angel du,
Gyrru’r gwaraidd- ar ffo.

Wrth sbio’n saff, ar y sgrin fach
Gwelaf fod cenhedloedd mewn conglau mwy
Yn heidio’n ddieiddo;
Cadachau dros eu cegau,
Cyrffiw ar eu celfyddyd,
Alltudiaeth sydd i’w lleisiau,
A gwelaf fod y Gymraeg rhyngom ni.

A’r tro nesa y gofynnir imi
‘Siarad lan’,
Yn gwrtais, gofynnaf i’r lleisydd
‘Siarad lawr’,
I ymostwng i’r gwyleidd-dra
Y gwyddom amdano, fel ein gwyddor.
Ac fel ‘efydd yn seinio’ Awgrymaf, nad oes raid wrth wifrau pigog,
Bod i iaith ‘wefrau perlog’,
A chanaf, cyfathrebaf
Mewn cerdd dant,
Yn null yr ieithoedd bychain;
Pobl yn canu alaw arall
Ar draws y brif don,
Er uched ei thraw,
Gan orffen bob tro
Yn gadarn , un-llais,
Taro’r un nodyn- a’r un nwyd,
Gan mai meidrol egwan ein mydrau.

‘A nawr, a ga i-
Y rhif yna yng Nghaerdydd.

Siapiau o Gymru

Ei diffinio rown
Ar fwrdd glân,
Rhoi ffurf i’w ffiniau,
Ei gyrru i’w gororau
Mewn inc coch;

Ac meddai myfyriwr o bant,
‘It’s like a pig running away’;
wedi bennu chwerthin,
rwy’n ei chredu;
y swch gogleddol
yn heglu’n gynt
na’r swrn deheuol
ar ffo rhag y lladdwyr.

Siapiau yw hi , siwr iawn:
Yr hen geg hanner rhwth
Neu’r fraich laes ddiog
Sy’n gorffwys ar ei rhwyfau;
Y jwmpwr, wrth gwrs,
ar ei hanner,
Gweill a darn o bellen ynddi,
Ynteu’n debyg i siswrn
Parod i’w ddarnio’i hun;
Cyllell ddeucarn anturiaethydd,
Neu biser o bridd
Craciedig a gwag.

A lluniau amlsillafog
Yw’r tirbeth o droeon
A ffeiriaf â’m cydnabod
A chyda’r estron
Sy’n ei gweld am yr hyn yw:
Digri o wasgaredig
Sy
Am
Fy
Mywyd

Fel bwmerang diffael yn mynnu
Mynnu
Ffeindio’i
Ffordd
Yn

Ol
At
Fy nhraed.

Bloeddier i Bobloedd y Byd

A sylwoch mor ddiamser
yw dyn wrth ddod at iaith newydd?
Bydd, fe fydd yn baglu dros gytseiniaid,
yn gohirio llafariaid,
yn gwisgo holl arfogaeth ei ddyhead
am fuddugoliaeth dros fynegiant.
A bydd, fe fydd ei dafod
fel baban bach ar ei ben ôl.

Felly, bydded i bob un o genhedloedd byd
ddysgu iaith esgymun ei gymydog.
Ie, cropian a chwrian mewn corneli,
colli cwsg wrth ei thrwsglo;
cans fel hyn y daw dileu yr amserau.
Ni ddaw’r gorffennol yn rhwydd ar dafod.
Erys iaith heddiw. Bydd yn ddeiseb hedd –
gan dynnu i lawr yr holl ferfau pigog;
ni fyd yr amherffaith mor berffaith
a phan nad yw.

A bydd agen, hollt a rhwyg
yn cael eu cyfrannu’n geg agored.
Pob newydd ddysgwr â chof
am gyweirio cystrawennau
cyfod o’i wely, unioni llef.

Ni fydd amser i ledu llid,
cans bydd llwythau wedi eu llethu
â chyfoeth yr holl gerrig arloesi.

A thrwy’r babanod yn Babel bydd iau
wedi ei chodi a’r Uniaith yn iachâu
wrth ymryddhau, rhyddhau wrth hau.

Cyplau

Murddun yw byw. Ninnau, mynnwn ei drwsio
at ddiddosrwydd. Gyda’n dwylo ei saernïo

at frig adeilad. Nes clymu o dano nenbren
a wylia holl fynd a dod ein byw heb wybren.

Dau rwymyn cam. Naddwyd hwy yn gyfan
yn gyffion cytun. Yn drawstiau llyfn a llydan.

Cyfarfod dau. Dyna’r grefft a fagwn wrth amgau
dros ffrâm ddau gnawd. Gan asio’r llyfnus gyplau

sydd weithiau’n enfysu’n un. Ar ogwydd, uwch yr oerfyd
geubrennau’n chwiffio serch. Yna’n stond am ennyd.

A’r to mor elwig ar dro yn gwichian cariad
wrth ddwrdio’r gwynfyn draw. I aros tro ei gennad.

Agoriad

Yn gynnes yn y graig, ffynnon
sy’n tincial gleiniau crisial
yn danlli gri yn sisial
ffynnon yw hon-llawn awelon
ger y moroedd garw-hen fumuron

Ar draethell daeth mintai
fe’u golchwyd i’r bae
“Ein gwefusau’n sychedig”
-a hi yn hwyrhau.

O’i weddi daeth atom
-rhoi ffiol ar ein min.”
“lach y byddwch yn y bore
-rhodd Duw yw’r dwr – blas gwin.”

“Beth fynni di gennym
Am groeso drem y mor?”
“Yn anterth pob storom-
gallu galw’r teithwr i’m dôr”.

Mewn glesni, tesni’n lasgu,
cwmysg â’r glas sy’n llathru,
Croeso rhwng dwy ynys- hen gynghanedd
ger y moroedd garw- llaw tangnefedd.