Dafydd El y ‘Cywiriadwr’

Mar 29, 2025

Trist ond falch oeddwn o fod yn bresennol yn angladd yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas – un a fu’n ffrind i mi (a’r teulu), yn amddiffynydd bardd weithiau i ganu’n wahanol i’r traddodiad – yn wleidydd angerddol, yn llenor praff.

Roedd yn ddyn mawr ein cenedl – ond heb fod yn ‘fawreddog’! Cyfuniad hynod yn wir.  Does yna’r un gair am ‘contrarian’ yn Gymraeg ac oherwydd hynny

Awgrymaf…

Cywiriadwr – un oedd yn groes i natur yn gyson  ond yn ymrafael â’r amrywiol ddulliau o weld pethau. Does rhyfedd nad oedd yn wleidydd statig ond yn symud liwio’n ddeallus …

 

Gweler isod ddarn a gyhoeddwyd gyntaf yn fy ngholofn Western Mail am Dafydd El…

Rhy fyr o eiriau sydd i’r golofn Gymraeg  i dalu teyrnged i  Dafydd Elis Thomas, un o bersonau mwyaf lliwgar Cymru a fu farw rai dyddiau yn ôl.  Sut mae mesur yn llawn ei gyfraniad aruthrol i Gymru a’r Gymraeg?

Un o’r pethau cyntaf a wnaeth Dafydd mewn ffordd oedd ieuo’r anghymarus. Prin y cofiwn yn nyddiau cynnar Cymdeithas yr Iaith y math o  berthynas afrwydd a fodolai rhyngddi hi a Phlaid Cymru. Tebyg oedd ymdeimlad  rhai yn y Blaid a gredent fod y Gymdeithas yn tarfu ar obeithion y Blaid i ennill seddau yn San Steffan.

Ond llwyddodd  Dafydd El rywsut i wneud y ddeubeth gan gefnogi’r Gymdeithas a hynny, fel aelod Seneddol Plaid Cymru gan asio’r iaith gydag ymgyrchoedd cyfansoddiadol. Gwelai  angen y naill fel y llall i  frwydro dros  hawliau sifil a chyfundrefnol. Fel Sosialydd, roedd ei weledigaeth yn glir a’i allu i herio’r gyfundrefn ar adegau yn arwrol. Llwyddodd i droi adegau anodd Cymru (Y refferendwm cyntaf) yn fwy o reswm fyth dros rymuso’r weledgaeth dros Senedd i Gymru.

Caiff eraill adrodd am ei gyfraniad gwleidyddol, a daw chyfrol swmpus a threiddgar Aled Eirug cyn bo hir i’n goleuo  ymhellach amdano. Ond hoffwn gyfeirio at ei gariad at lenyddiaeth, llwybr y gallasai fod wedi ei ddilyn oni bai am ei alwedigaeth i’r byd gwleidyddol: San Steffan, Tŷ’r Arglwyddi (achos cwenc ond maddeuodd imi!), ac yna Senedd Cymru, fel Llywydd.

Rhoddodd ‘Rhagair’ hyfryd i gyfrol o’m heiddo sef ‘Tro’r Haul  Arno’ ac mae’r llinell agoriadol yn adleisio cenadwri ei fywyd  yntau – ‘Adnabod y gaethiwed yw dechrau bod yn rhydd’. Ym myd llenyddiaeth, fe ddisgleiriodd ac mae ‘Traddodiadau Yfory’, darlith lenyddol, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1983 yn glasur bychan gan ysgwyd unwaith eto ein syniadau cyfforddus am beth yw llenyddiaeth gan archwilio ystyron geiriau fel  ‘natur’ neu ‘ newid’. Ymholi a wna yn y ddarlith beth yw’r gwahaniaeth rhwng llén a llenyddiaeth?  Yr hyn a wna yw herio, cwestiynu, ie, sigo beth yw gwir ystyr geiriau fel ‘etifeddiaeth’  ‘ffordd o fyw’; ‘gwarchod’  sef y math o eiriau sy’n cael eu  derbyn fel diffiniadau ‘naturiol’. Ond dyma’r sylw a gofir yn y ddarlith ‘  Gallwn weld fod torri ar draddodiad yr un mor bwysig a’i gadw, a bod siarad am wrthdrawiadau , gwahaniaethau  a chyferbyniadau cyfnod yr un mor bwysig â siarad am barhad o ryw fath’. Athronydd greddfol oedd.

Chwyldrodd ein meddyliau. Dyna a wnaeth drwy ei fywyd sef gogrdroi syniadau, herio’r confensiynol (er helpu i’w sefydlogi hefyd fel  Llywydd Senedd!). Ac ni ddylid anghofio iddo ennill ei ddoethuriaeth ar farwnadau yr oesoedd canol cynnar (14eg) ganrif a llwyddo’n rhyfeddol i daflu syniadau Marcsaidd i mewn i’r Pair!

Taw piau hi am nawr. Haedda gerdd deyrnged nesa – fel cyfaill.

Pin It on Pinterest

Share This