Gwych oedd lansio yn swyddogol neithiwr yn y Senedd, cyfrol o farddoniaeth Cymraeg, Arabeg a Saesneg gydag un o’r ddau gyfieithydd yn bresennol i ddarllen gyda mi sef Rawan Sukkar.

Roedd hi’n braf clywed merched ifanc hefyd yn rhan o’r digwyddiad gan ddarllen yn Arabeg ochr yn ochr a’r Gymraeg.
Diolch mawr hefyd i’r cyhoeddwr Ali Anwar, H’mm Foundation, ac i’r Athro M. Wynn Thomas am lywio’r noson mor ddeheuig.
I brynu cyfrol archebwch drwy eich siop leol neu ar y wefan fama.
