Cyhoeddwyd gan H’mm Foundation mae’r casgliad hwn yn cynnwys 31 o gerddi gwreiddiol a ysgrifennwyd gan yr awdur yn Gymraeg, ac a gyfieithwyd i’r Saesneg, ac yna, am y tro cyntaf eu cyfieithu i’r Arabeg gan ddau awdur arbennig sef Rawan Sukkar a Lara Matta. Dewiswyd y cerddi hyn o gasgliadau blaenorol a gyhoeddwyd gan Bloodaxe Books: Perffaith Nam/ Perfect Blemish ( 2007); Murmur ( PBS argymhelliad o fri 2012), a Bondo (2017).
++++++++++++++++
“Mae cerddi Menna Elfyn yn ein dwyn at guriad calon. Rwyf mor ddiolchgar i’w darllen yn fy mamiaith, Arabeg wrth iddi barhau i gyfoethogi ei darllenwyr gydag empathi dwys. Gwyddom eisoes am ei phwysigrwydd fel bardd rhyngwladol i ddwyn pobloedd a diwylliannau ynghyd. Cyfrol hanfodol yw sy’n taflu goleuni ar enaid y ddynoliaeth.” – Maram Al Masri
++++++++++++++++
“Wrth groesawu cerddi Cymraeg Menna Elfyn i’r Arabeg, mae’r cerddi hardd yn bontydd sy’n uno’r ddynoliaeth gan ddarllen yn wych yn y cyfieithiad godidog. Llwydda i gipio ysbryd y cerddi Cymraeg heb gyfaddawdu ar ddyfnder eu telynegrwydd tyner.” – Fadia Faqir
+++++++++++++
“Mae’r gyfrol ‘Caned Pobl y Byd’ yn dathlu grym trawsnewidiol iaith gan ein gwahodd i anwesu yr amherffeithrwydd a rannwn a’r hyn sy’n ein gwneud yn unedig fel cymuned fydeang. Gyda delweddau lliwgar a rhythmau telynegol mae Menna Elfyn yn cydbethu’n ddeheuig y personol a’r gwleidyddol gan greu cyswllt llyfn rhyngddynt.” – Dunya Mikhail
