Cyhoeddi cyfrol newydd Menna Elfyn, Cwsg – am dro ac yn ôl.

Nov 5, 2019

Mae gwasg Gomer ar fin cyhoeddi cyfrol newydd sbon gan y bardd, yr awdur a’r dramodydd, Menna Elfyn, gyda darluniau gwreiddiol gan yr artist, Sarah Williams. 

Fy ngefaill wyt yn y tywyllwch.
Awn ar wibdeithiau i lefydd dieithr

A byddi yn fy nhywys i fannau na feiddiwn droedio arnynt. 

“Mae’r cyflwr ‘cwsg’ wedi fy nghyffroi a’m drysu erioed,” esbonia Menna. “Dyma’r un peth sydd gennym i gyd yn gyffredin. Yr angen am gwsg, ac weithiau y chwilio dibendraw amdano.” 

“Am dros ddeng mlynedd, dwi wedi bod yn casglu pytiau o bapur newydd ar y thema ‘cwsg’, yn darllen cyfrolau ar ben cyfrolau, ac yn trio ymchwilio – ond nid o safwynt gwyddonol – ar y cyflwr, a darganfod fod y maes yn helaeth dros ben, â nifer o bobl eraill yn rhannu’r un diddordeb â mi yn rhin cwsg.”

Mae’r cyhoeddiad yn un gweledol, ac yn llawn darluniau gan yr artist Sarah Williams, o Hwlffordd.

“Roedd hi’n grêt cael gweithio gyda Menna, a’r dylunydd, Heidi Baker ar y prosiect hwn,” meddai Sarah. “Byddai Menna yn gyrru stori neu gerdd, neu bwt o destun ata i, a byddwn i’n creu darn o gelf wedi’i ysbrydoli gan hwnnw. Weithiau, nid yr hyn y byddech yn ei ddisgwyl. Sdim dal beth mae’r meddwl yn ei greu!” 

“Mae creu’r llyfr hwn wedi bod yn brofiad difyr a dwys iawn,” meddai Menna. “Dwi wedi dod ar draws llawer o bobl rhyfeddol, sydd wedi cael profiadau anghyffredin iawn yn ymwneud â chwsg.

“Un sy’n aros yn y cof yw’r artist o Gymru, Lee Hadwin. Dim ond yn ei gwsg y gall arlunio. Mae’n gadael deunydd peintio dros ei gartre yn barod iddo greu pan yw’n cysgu. Yn y bore, mae’n deffro a darganfod rhywbeth newydd. Anhygoel! ” ychwanegodd Menna. 

“Clytwaith o straeon byrion, gwybodaeth, ffeithiau, dyfyniadau, ysgrifau, a cherddi sydd yma. Cyfrol i estyn amdani pan nad yw cwsg yn dod yn rhwydd, efallai. Llyfr y gellid darllen ohono am dipyn, wedyn ei roi yn ôl i lawr tan y tro nesa,” yn ôl golygydd y gyfrol, Catrin Wyn Lewis. 

Cynhelir lansiad i’r gyfrol yn yr Atom, Caerfyrddin, nos Iau Tachwedd 7fed am 7 o’r gloch. Bydd croeso i bobl ddod yn eu pyjamas! (Go iawn!) A gellid dod â phlant hefyd. Digwyddiad i’r teulu, a chyfle i ddathlu’r llyfr unigryw hwn. Bydd lluniaeth ysgafn, darlleniad gan Menna, arddangosfa o waith Sarah, ac ambell awgrym am sut i gael cwsg dda! 

Pin It on Pinterest

Share This