I was saddened but proud to be present at the funeral of Lord Dafydd Elis Thomas – one who was a friend of mine (and the family), a poet’s protector at times to sing differently from the tradition – a passionate politician, a smart writer.
He was a great man of our nation – but not ‘grand’! A remarkable combination indeed. There is no word for ‘contrarian’ in Welsh and because of that I suggest…
Cywiriadwr – un oedd yn groes i natur yn gyson ond yn ymrafael â’r amrywiol ddulliau o weld pethau. Does rhyfedd nad oedd yn wleidydd statig ond yn symud liwio’n ddeallus …
See below a piece written originally in my column in the Western Mail about Dafydd El…
Rhy fyr o eiriau sydd i’r golofn Gymraeg i dalu teyrnged i Dafydd Elis Thomas, un o bersonau mwyaf lliwgar Cymru a fu farw rai dyddiau yn ôl. Sut mae mesur yn llawn ei gyfraniad aruthrol i Gymru a’r Gymraeg?
Un o’r pethau cyntaf a wnaeth Dafydd mewn ffordd oedd ieuo’r anghymarus. Prin y cofiwn yn nyddiau cynnar Cymdeithas yr Iaith y math o berthynas afrwydd a fodolai rhyngddi hi a Phlaid Cymru. Tebyg oedd ymdeimlad rhai yn y Blaid a gredent fod y Gymdeithas yn tarfu ar obeithion y Blaid i ennill seddau yn San Steffan.
Ond llwyddodd Dafydd El rywsut i wneud y ddeubeth gan gefnogi’r Gymdeithas a hynny, fel aelod Seneddol Plaid Cymru gan asio’r iaith gydag ymgyrchoedd cyfansoddiadol. Gwelai angen y naill fel y llall i frwydro dros hawliau sifil a chyfundrefnol. Fel Sosialydd, roedd ei weledigaeth yn glir a’i allu i herio’r gyfundrefn ar adegau yn arwrol. Llwyddodd i droi adegau anodd Cymru (Y refferendwm cyntaf) yn fwy o reswm fyth dros rymuso’r weledgaeth dros Senedd i Gymru.
Caiff eraill adrodd am ei gyfraniad gwleidyddol, a daw chyfrol swmpus a threiddgar Aled Eirug cyn bo hir i’n goleuo ymhellach amdano. Ond hoffwn gyfeirio at ei gariad at lenyddiaeth, llwybr y gallasai fod wedi ei ddilyn oni bai am ei alwedigaeth i’r byd gwleidyddol: San Steffan, Tŷ’r Arglwyddi (achos cwenc ond maddeuodd imi!), ac yna Senedd Cymru, fel Llywydd.
Rhoddodd ‘Rhagair’ hyfryd i gyfrol o’m heiddo sef ‘Tro’r Haul Arno’ ac mae’r llinell agoriadol yn adleisio cenadwri ei fywyd yntau – ‘Adnabod y gaethiwed yw dechrau bod yn rhydd’. Ym myd llenyddiaeth, fe ddisgleiriodd ac mae ‘Traddodiadau Yfory’, darlith lenyddol, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1983 yn glasur bychan gan ysgwyd unwaith eto ein syniadau cyfforddus am beth yw llenyddiaeth gan archwilio ystyron geiriau fel ‘natur’ neu ‘ newid’. Ymholi a wna yn y ddarlith beth yw’r gwahaniaeth rhwng llén a llenyddiaeth? Yr hyn a wna yw herio, cwestiynu, ie, sigo beth yw gwir ystyr geiriau fel ‘etifeddiaeth’ ‘ffordd o fyw’; ‘gwarchod’ sef y math o eiriau sy’n cael eu derbyn fel diffiniadau ‘naturiol’. Ond dyma’r sylw a gofir yn y ddarlith ‘ Gallwn weld fod torri ar draddodiad yr un mor bwysig a’i gadw, a bod siarad am wrthdrawiadau , gwahaniaethau a chyferbyniadau cyfnod yr un mor bwysig â siarad am barhad o ryw fath’. Athronydd greddfol oedd.
Chwyldrodd ein meddyliau. Dyna a wnaeth drwy ei fywyd sef gogrdroi syniadau, herio’r confensiynol (er helpu i’w sefydlogi hefyd fel Llywydd Senedd!). Ac ni ddylid anghofio iddo ennill ei ddoethuriaeth ar farwnadau yr oesoedd canol cynnar (14eg) ganrif a llwyddo’n rhyfeddol i daflu syniadau Marcsaidd i mewn i’r Pair!
Taw piau hi am nawr. Haedda gerdd deyrnged nesa – fel cyfaill.
