Dillad

Nov 28, 2021

person in black hoodie standing on seashore during daytime

Mae yna ymgyrch ar droed i beidio â phrynu dillad newydd am flwyddyn. Na, wna i ddim addo eto i beidio â phrynu pilyn am flwyddyn gron ond rwy’n llawn edmygedd o’r rheiny sydd wedi cychwyn yr ymgyrch a hynny er mwyn yr amgylchedd. Ond fe fues i o dipyn i beth yn ceisio cael gwared ar ddillad yn ystod y misoedd diwethaf. Llwyddais i ffarwelio gyda sawl bwndel o ddillad a brynwyd a rhai, gen i gywilydd i gydnabod, heb eu gwisgo hyd yn oed gyda’r tafodau pris arnynt o hyd. Rhyw brynu ffwrdd-â-hi neu chwiw yr eiliad wan oedd y rheswm fel arfer dros brynu dilledyn heb wybod a oedd ei angen arnaf. Ac roedd gweld y gair ‘sêl’ wedi ei fywoleuo yn ddigon i’m gyrru i chwilio am fy mhwrs. Gas gen i gydnabod imi wario yn ddiangen. O leiaf fe’u gwelaf o dro i dro yn hongian mewn siop elusen leol.

Mor wahanol oedd hi slawer dydd pan oeddwn yn groten fach. Rwy’n ddigon hen erbyn hyn i gofio’r ‘liberty bodice’, rhyw fath o staes neu fest i blentyn gyda botymau i gadw’r cnawd yn gynnes ac yn ei le. Roedd cael ‘fest’ yn beth pwysig yn ein geirfa ni’n blant, pe bawn yn cael annwyd byddai un o’r ddwy fam-gu yn siwr o ddweud ‘dylet fod wedi gwisgo fest’. Wel, mae eisie mwy na fest heddi i arbed mynd yn sâl ond y mae dillad cynnes yn gaffaeliad. Gyda’r holl weithio yn y cartref, dyna braf bellach yw gallu gwisgo pyjamas drwy’r dydd pe baem am wneud hynny. Diflannodd y rhagfarn am y math o wisgoedd bob dydd sydd yn dderbyniol. Wel prin fod neb yn sylwi ar ddillad neb arall y dyddiau yma. Cofio’r cyfnod pan oedd gwisgo trowsus fel athrawes ifanc mewn ysgol yn destun trafodaeth ynghylch ei ‘weddustra’ er mai cyfnod sgertiau mini oedd y dewis arall bryd hynny. A do, daeth yr hŵdi anfarwol– gyda chwcwll yn ffasiwn gan yr iau a’r hŷn er i hynny gael ei feirniadu gan wleidydd ryw dro fel gwisg hwliganiaid peryglus. Wel bellach rwy’n dwlu ar fy hŵdi ac yn ei gael yn hynod gysurlon boed o gwmpas y tŷ neu ar hyd a lled y dre.

Dillad. Roeddwn wrth fy modd yn mynd gyda mam i brynu deunydd yn y farchnad ac yna awn â’r deunydd at wraig a wnai wyrthiau ohono. Gallaf deimlo’r piniau yn fy asen o hyd wrth alw am ‘ffiting’ cyn torsythu yn y wisg derfynol. A dyna fi nôl at gyfnod ‘dwy ffrog newydd at yr haf.’ A! Ha! Darbodus, fel y dyle pethe fod. Digon i’r haf oedd dwy ffrog newydd a dim pilyn yn fwy am flwyddyn arall.

Pin It on Pinterest

Share This