Cyfnerthydd a nerth

Nov 14, 2021

Dyna air da yw ‘nerth’, gallwn osod pob math o eiriau tuag ato – a’r diweddaraf i mi yw’r gair cyfnerthydd am y pigiad at y ddwy arall. Rhaid canmol y rhai sy’n gwneud y gwaith hwn, nid ar chwarae bach y mae mynd trwy’r holl gynghorion a chwestiynau cyn gweinyddu’r peth. Chwarae teg iddynt am eu llafur. Methu â deall ydw i – y rhai hynny sy’n dal i wrthod â derbyn y pigiad er eu bod yn gweithio ym maes gofal a iechyd?

Pigiadau o fath go wahanol a ddaeth i ran Prif Weinidog ‘Prydain’ yr wythnos diwethaf pan aeth ati i geisio clirio drwgweithredu un aelod Seneddol gyda’r frawdoliaeth hŷn gan fwyaf yn ei amddiffyn i’r carn gan wasgu yn annheg ar aelodau seneddol eraill i dderbyn gwelliant a fyddai yn rhoi rhwydd hynt i Owen Paterson i osgoi is-etholiad. Yn y pendraw fe wnaeth y llywodraeth gam-ddehongli dicter eu haelodau a bu tro pedol . Ac wrth gwrs, erbyn dydd Llun roedd Boris mewn ysbyty yn sâl o eisiau cael diwrnod bant o’r gwaith ac yng ngogledd Lloegr yn cerdded y coridorau heb fwgwd. Ai chwarae’r ffon ddwybig oedd ei fwriad neu heb ofal am ddim ond ef ei hun—falle iddo anghofio bod Covid yn dal i fod?

Dyma’r union adeg- pan oedd COP26 fod ar flaen y gad, ar flaenau tafodau arweinwyr byd, ac ar flaen meddyliau pob un ohonom sydd yn poeni am ddyfodol y byd a’r cread yr ydym wedi ei difwyno i’r cenedlaethau a ddaw. Nid mwy o ‘ Winllan a Roddwyd ‘ i blant ein plant ond grawnwin surion a losgwyd yn ulw mewn tanau fydd hi. Bum yn darllen yn ddiweddar lyfr Elizabeth Kolbert ‘Under a White Sky’ sy’n adrodd hanes natur y byd yn y dyfodol. Na, nid llyfr och a gwae yw e wedi’r cyfan ond adrodd y mae yr holl ymyriadau a wna ‘ arwyr’ a ‘herlodesi’ wrth geisio atal difodiant: peirianwyr sydd yn troi carbon yn gerrig yn Ynys yr Iâ ( gyda llaw sdim gair yn eu hiaith nhw am ‘ stuck’). Yna, ymchwilwyr sy’n ceisio troi cwrel arbennig a all wrthsefyll y byd i boethi ymhellach a ffisegwyr yn ystyried saethu diemwntau i’r stratosffêr er mwyn oeri’r ddaear. Mae llawer mwy hefyd yn y llyfr dwfn ond deallus hwn.

Dwfn. Deallus. Alla i ddim a dweud bod hynny’n eiriau i ddisgrifio’r rhai mewn grym ar hyn o bryd. Fesul un, mae ‘r Prif Weinidog wedi rhoi bwmbwr dros ei lygad i osgoi yr hyn sy’n digwydd a’r llwgr wobrwyo yn mynd â rhai yn ddyfnach yn y caglau. Dechreuais gyda ‘nerth’ a chydnerthu. Ond mae grym yn un peth ( dros dro) peth arall hollol yw nerth.

Pin It on Pinterest

Share This