Gelli Gandryll

Colofn Gymraeg bob pythefnos yn y Western Mail, cyhoeddwyd gyntaf ar Mai 27 2021:

Fydda i ddim yn y Gelli Gandryll eleni. Fydd neb arall ychwaith. Ond gall y byd yn grwn wylio’r digwyddiadau . Chwithig hefyd achos un o’r cyffroadau oedd cael bod mewn tref fechan, strydoedd culion a maes bras ar gyrion y dref. Maes digonol ar gyfer miloedd y bobl. A llyfrau dan ei sang. Syniadau i hogi’r ymennydd. ‘ Sasiwn seciwlar’, neu ‘ Gymanfa Bwnc’ o fyd. Mewn oes arall ontife.

Atgofion trysoredig. Cael fy ngwahodd i’r Ŵyl yn yr ail flwyddyn o’i bodolaeth. Darllen yn Gymraeg heb gyfieithiadau bryd hynny ond Peter Florence a’i dad annwyl Flo ac eraill yn gwrando’n astud. Lle i lên gael ei rhannu o dan len! Wedi hynny mynychu’n flynyddol. Y drydedd flwyddyn i mi ddarllen, cofiaf gael fy nghyflwyno gan y cadeirydd, bardd annwyl o Sais a ddywedodd i mi ddod dros y ffin o Gymru i’r Gelli. A dyma’r gynulleidfa yn chwerthin yn uchel. Ond, o dipyn i beth, daeth y Gelli Gandryll yn enw cyfarwydd. Daeth yn bererindod i gwrdd ag awduron rhyngwladol, ces gyfweld â Toni Morrison, ysgwyd llaw â Maya Angelou ac ati. Ond yr uchafbwynt oedd cwrdd ag Emyr Humphreys, R S Thomas a Dannie Abse. Beirdd o fri. Ac roedd ethos Cymreig yn perthyn i’r Gelli o’r cychwyn cyntaf. Roddwyd gwobrau barddoniaeth i blant ysgol Powys. Noddwyd darlith flynyddol gan y Bwrdd Datblygu Gwledig nes dileu’r Bwrdd.

Blinais ar wenwyn sawl un am ddiffyg y Gymraeg yno. Gŵyl Ryngwladol yw sy’n arddangos ein byd diwylliannol amrywiol. Ceisiwyd sefydlu diwrnod Cymreig yn dilyn y cwynion ond gyda’r Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd ar drothwy’r Ŵyl, tila oedd y gefnogaeth.

Ond dyma finne eleni yn cwestiynu ei nod. Ysgrifennodd Richard Davies, cyhoeddwr Parthian ac awdur , sylwadau tebyg. Ble aeth y weledigaeth? Ydi Llywodraeth Cymru a noddwyr eraill Cymreig yn hapus fod nawdd ariannol ‘llenyddol’ yn hyrwyddo’n bennaf sesiynau rhai fel Tony Blair, ac Alastair Campbell? Ble aeth bwrlwm y lleisiau amrywiol, amlieithog? Darlleniadau? Ydi’r Gelli yn y Gwyll?

Gwych yw gweld yr awduron a’r enwogion rhyngwladol yn cael eu lle a byddaf wrth fy modd yn gwrando ar rai ohonynt. Ond fel Llywydd PEN Cymru, corff sydd yn hyrwyddo llenyddiaeth gan amddiffyn y rhai sy’n cael eu lleisiau wedi eu mygu, rhai codi llef dros awduron Cymru. Mae cenhedlaeth newydd o awduron yn Gymraeg a Saesneg sydd yn haeddu eu clywed yn yr Ŵyl, ac yn haeddu’r cyfle i berfformio fel y ces innau ddegawdau yn ôl. A rhag i rywun arall ar lwyfan sôn am awdur Cymraeg yn dod dros y ffin o Gymru i’r Gelli , mae eisie cadw a hyrwyddo ein dwy lenyddiaeth.

A chyn i ryw dwpsyn o weinidog yn San Steffan fynnu rhoi baner Jac yr Undeb uwchben yr Ŵyl!