Gwobr Nobel Heddwch

Oct 16, 2021

Rwy’n cofio meddwl yn blentyn mai dim ond cwestiwn oedd ‘oes’. Ond wedyn daeth ‘yn oes oesoedd’ i’m geirfa a dechreuais sylweddoli ei fod yn air cyffredin ac anghyffredin. Gallwn ddweud wrth ffrind na welsom ein gilydd ‘ers oes’. Dysgais am y gwahanol Oesau: Oes Efydd, a’r Oes Haearn, Oes Iâ ac Oes y Cerrig ac ati. Caraf y sylw ‘o flaen ei oes’, gwell hynny na bod ‘ar ôl ei oes’ siŵr o fod. A daeth ‘oes silff’ yn bwysig wrth inni drefnu ein bwydlenni. Sut y bydd ambell un yn disgrifio yr ‘Oes’ hon tybed? Ai Oes Gofidiau, neu Oes y ‘Cynllwynion dwl’ ond wedyn oni fu cynllwynion ffug yn bodoli ymhob ‘oes’. Beth sy wedi newid felly? Wel y cyfryngau cymdeithasol a’r dechnoleg trosglwyddo gwybodaeth ontife? Yn sicr, byddai rhywbeth felly yn clymu’r oes hon fel un o Ôl-Wirionedd.

Diolch felly am ddau a enillodd Wobr Nobel am heddwch yr wythnos diwethaf, ac am sefyll yn gadarn dros wirionedd yn erbyn dau deyrn. Cyfrannodd y naill fel y llall at newyddiaduraeth rhydd, annibynnol, yn seiliedig ar ffeithiau. Dyna ichi Dmitry Muratov, un o sefydlwyr ‘Novaya Gazeta’ yn 1993 a’r Rwsiad cyntaf ers Mikhail Gorbachev i ennill yr un wobr. Yn raslon iawn, nododd Dmitry y byddai ef ei hun wedi rhoi’r wobr i Navalny sydd ar hyn o bryd yn y carchar, drwy wrthwynebu Putin. Ceisiodd hwnnw ei ladd drwy wenwyn. Ac wrth dderbyn y wobr cyflwynodd hi er cof am chwe newyddiadurwr i’w ffrwd newyddion a laddwyd dros ddatgelu dichell a llygredd y drefn wleidyddol yno. Mae’r ail enillydd hefyd yn berson rhyfeddol sef Maria Ressa a sefydlodd ‘Rappler’ gwefan newyddion, sydd wedi canolbwyntio ar hawliau dynol ac ymgais yr Arlywydd Rodrigo Duterte i’w thawelu drwy ei herlyn mewn llys barn. Mae miloedd o bobl wedi eu lladd ar y strydoedd gan Duterte drwy ei ymgyrch yn erbyn y rhai sy’n ymwneud â chyffuriau. Fel Dmitry, safodd yn gadarn gan wrthod a ffoi o’i gwlad ond gan barhau i ledu’r anghyfiawnderau.

Dyna pam y mae PEN Rhyngwladol, a PEN Cymru fel un o gant a hanner o ganolfannau yn sefyll gyda’r newyddiadurwyr dewr hyn. Gallwn fod wedi rhestru enwau eraill sydd yn y carchar ar hyn o bryd am wneud yr un gwaith yn union â’r ddau hyn. Oes y Goleuo? Na, ond gallwn hiraethu am y cyfnod hwnnw pan oedd ‘bri ar syniadau yn seiliedig ar y gred y gallai’r ddynoliaeth yn gyffredinol wella’i chyflwr’. Beth alwech chi’r ‘Oes’ bresennol felly – ‘Oes yr Hanner Gwyll’, ‘Oes y Cyfnos’ o feddwl am y newid hinsawdd. Ond gyda dewrion fel yr uchod siawns na allwn anelu at ‘Oes y Gwelliant’ neu ‘Oes y Gobaith Newydd’?

 

Pin It on Pinterest

Share This