Max Boyce

Jan 4, 2022

person holding lighted sparklers

Blwyddyn Newydd dda i ddechrau. Ac anrhydedd o hyd yw cael llunio’r golofn hon. Dyma adeg cyhoeddi’r anrhydeddau brenhinol am y fonesig hon a hon neu’r marchog hwn ac arall. Y cam mwyaf gwyrdroedig oedd gwneud Tony Blair, troseddwr a rhyfelgi yn Knight Companion of the Most Noble Order of the Garter. Nobl? Clwyf i deuluoedd a gollodd filwyr yn Irac. A bellach, mae’r holl swyddogion iechyd wedi cael anrhydeddau. Pam nawr a’r feirws yma o hyd? Ai er mwyn codi’n hwyliau? Gair anffodus braidd. Llwncdestun iddynt am wneud rhywbeth mor gynamserol — iechyd da?

Gwell efallai yw diolch am yr hyn gyflawnwyd yn y degawdau a fu ac un a wnaeth gyfraniad dros y byd a thros ei wlad oedd yr Archesgob Desmond Tutu. Anodd meddwl am unrhyw ffigwr dylanwadol, doeth arall a wnaeth weddnewid agweddau pobl ledled y byd ac yn ei wlad wrth ddisodli y drefn apartheid (heblaw Mandela!). Rhoddodd ffydd, y math ysbrydol, a’r math anianol i gymaint o bobl, a gwneud hynny gyda gorfoledd at fywyd yn ei helaethrwydd. Roedd gweld ei arch seml, y math a ddewisodd ei hun, mor wahanol i rwysg a sbloet yr anrhydeddau. Parhaodd, fel llais unigol ac unig yn anffodus i feirniadu yr hyn a welodd ym Mhalesteina a’i debygu i’r math o drefn ‘apartheid’ a ormesodd ei bobl yn Ne Affrica. Ond dywedodd un tro nad oedd ganddo ddiddordeb mewn pigo briwsion o drugaredd wedi eu taflu oddi ar fwrdd ond am gael holl fwydlen hawliau dynol.

A’r Cymro y dymunaf ei anrhydeddu yn 2022? Os bu arwr y werin — yn ganwr, bardd, digrifwr o Lyn Nedd sy’n annwyl gan yr hen a’r ifanc, wel Max Boyce yw hwnnw. Cyhoeddwyd cyfrol swmpus, clawr caled o’i gerddi a’i ganeuon, diolch i weledigaeth y wasg Parthian a llu o’i gefnogwyr. Mae rhai o deitlau ei gerddi/caneuon yn ddigon i godi gwên fel ‘I gave my love a debenture’, ‘The Divine Intervention’. Trodd Gymreictod yn beth gorfoleddus i’r Cymry yn union fel y llwyddodd Dafydd Iwan i gynnal ysbryd gwrthdystiol ton arall o Gymry. Da gweld y gerdd am streic y glowyr yno a ‘Hymns & Arias’ sydd bellach yn anthem genedlaethol arall. Os oes llawer o gerddi trist yno hefyd, hawdd deall pam ag yntau wedi ei eni fis wedi i’w dad gael ei ladd mewn damwain yn y pwll glo. Mae ganddo gerdd am y cyfnod clo sy’n berl, ac un arall ddwys am ‘Aberfan’ sy’n cloi fel hyn:

And I will plant a flower there and tie a small balloon
And wonder why in Aberfan did autumn come so soon.

Diolch Max am glasur rhwng dau glawr. Rwy ti’n haeddu pob ‘rhyddfraint’… i Gymry rwyt yn fwy o lawer na Syr!

 

Pin It on Pinterest

Share This