Sawl un ohonon ni geisiodd rhedeg gyda nhw ar y cae

Jul 14, 2021

man playing soccer game on field

Colofn Gymraeg bob pythefnos yn y Western Mail, cyhoeddwyd gyntaf ar 24 Mehefin

O am ryddhad pan ddaeth y chwiban ar ddiwedd y gêm rhwng Cymru a’r Eidal. A thrwy gydol y gêm dal anadl, ambell ebwch a gwg. Sawl un ohonon ni geisiodd rhedeg gyda nhw ar y cae, yn ein dychymyg er mwyn atal ymosodiad gan chwaraewyr yr Eidal? Wedi’r gêm , dyna braf oedd gweld y tîm yn rhyw fath o lawenhau. Anfonodd fy nghyfieithydd o’r Eidal ataf wedyn gan ddweud ‘ I like your team, they smile so easily’!

Rwy’n falch fy mod yn ysgrifennu hwn cyn y gêm nesa yn erbyn Denmarc. Alla i ddeall yn awr pam roedd fy nhad yn ei wythdegau yn gwylio’r gêm ar ôl i’r gêm orffen gan ei recordio ac yntau’n gwybod y sgôr! Gormod o bwysau oedd ei reswm dros wneud. Ofnai, oherwydd ei daerineb dros Gymru y byddai’n hala ei hunan yn dost. Sawl un ohonom sydd wedi teimlo rhywbeth yn debyg i hynny?

Ond nid gêm bêl-droed sy’’n fy ngyrru yn dost y dyddie yma ond y gêm y mae’r awdurdodau yn San Steffan yn ceisio ei hwylio ynghylch Prydain Fawr. Wrth gwrs , Prydain Fach yw hi erbyn hyn a dwi’n mynnu y dylem oll alw Cymru nawr yn Gymru Fawr.

Y diweddaraf o’u tactegau yw ein hannog i ddathlu – ie dathlu , yn Saesneg wrth gwrs anthem ‘ We are Britain’. A hynny, ar y 25fed o’r mis hwn, sef yfory i chi ddarllenwyr y papur hwn. A dyma’r geiriau ‘We are Britain and we have one dream to unite all people in one Great Team’. Ha! A rhaid ailadrodd cofiwch y geiriau ‘ Strong Britain, Great Nation’.
Gadewch inni ystyried hyn. Un freuddwyd. Am ffolineb ontife a ni i gyd yn breuddwydio am ddyheadau gwahanol . A beth bynnag roeddem yn arfer credu’r mantra – breuddwydiwch yn Gymraeg! Mae’r llinellau eraill yn yr anthem, os oes rhywun yn gwybod yr alaw yn datgan inni ehangu ein glannau! Ers pryd o gofio am gynlluniau gormesol y Swyddfa Gartref. Windrush? Grwgnach bwyd ysgol i’r anghenus? Grenfell? Deddf fyddai’n cwtogi ar wrthdystiadau?

Yna, mwy o eiriau am ‘ civic pride’. Balchder rhai o’r dosbarth breintiedig yw cael cytundebau hael. Prynodd un dŷ crand yn sydyn wedyn! Balchder eraill yw gallu cael to a chartref a thalu biliau . Ac addysg sy’n rhoi braint i rai—ac addysg eilradd sy’n bradychu cyrhaeddiadau eraill…

Aiff y ple ymlaen gan adrodd am ‘shared values of tolerance, kindness, pride and respect.’ Do bu’r rheiny oedd yn rhannu cytundebau llywodraeth San Steffan yn garedig iawn i rai. Onid ‘lôn VIP ‘ oedd hi, ontife?

Un diweddglo gweledol oedd. Dylid hyrwyddo Jac yr Undeb. ‘Re-appropriate’? Ai digri neu ai dagrau pethau yw hyn. Ofnaf fod rhagor o ffwlbri i ddod.

Pin It on Pinterest

Share This