Shirgarwr anobeithiol

Apr 12, 2024

green leaf

First published in a fortnightly column in the Western Mail, 12 April 2024. 

Mae rhywun yn teimlo’n euog weithiau o fod wedi ymweld  â  rhannau o’r byd ac eto heb wneud yn fawr o’r mannau sydd  o fewn ein  milltir sgwâr.  Fel D.J. Williams a alwodd ei hun yn Shirgarwr anobeithiol, rwyf innau yn caru Sir Gâr erbyn hyn. Da o beth o gofio fy mod yn byw yn y dre hynaf yng Nghymru.

Mynd i fan hudol  a wnes rai dyddiau  yn ôl ac i bentref Myddfai. Cael syndod o gyrraedd yno drwy’r hewlydd cul (Rhufeinig hefyd) nes cyrraedd cesail cwm bychan. Rhes o dai, ac eglwys sydd yno a dau gapel. Ym mhorth yr eglwys gwelir carreg fedd tad a mab, David a John Jones, dau feddyg  o’r ddeunawfed ganrif a rhai  oedd yn perthyn hwyrach i Rhiwallon a’i feibion a ddaeth yn Feddygon Myddfai. Ac etifeddion chwedl Morwyn Llyn y Fan Fach. Prin bod eisie atgoffa rhywun fel y daeth o’r llyn cyn dychwelyd yno wedi iddi fagu tri o feibion a’u dysgu am rinweddau y gwahanol blanhigion yno.

Dyna braf oedd gweld bod y caffi ar agor, diolch i wirfoddolwyr ac yn ymyl y caffi a’r siop, neuadd fawr. Wrth sefyll ger y neuadd gallwn edrych draw at olion twmpath lle bu Castell Waun Berllan unwaith gyda meddygon yn dychwelyd i lys Rhys Gryg gyda’u darganfyddiadau iachusol newydd.

Yr hyn sy’n hynod yw’r ffordd y mae’r bychanfyd hwn — wedi troi yn fyd mawrfrydig o ran ffisig a moddion perlysiol. Tueddwn  feddwl nad oedd llawer o deithio yn yr oesau a fu ond mae Myddfai yn dangos mor bwysig oedd dylanwadau  Arabaidd a’r traddodiad Islamaidd ar feddyginiaeth  cyfnod yn ein hanes. Un peth sy’n profi hynny yw bod rhai llysiau bellach yn rhai a gasglwyd o fannau dwyreiniol ein byd gan ffynnu yno o hyd.

A ninnau’n falch o feddyginiaethau newydd dyna agoriad llygad oedd sylweddoli fel y datblygwyd meddygaeth  Arabaidd gan ddatblygu’r syniad o ysbyty (bimaristan) oedd  bryd hynny yn hosbis hefyd gyda gerddi o gwmpas y lle, a phwyslais wedi ei roi ar wellhad drwy fyw yn dda chadw’n iach. Roedd hyd yn oed clinigau teithiol o gwmpas y wlad ac yn y Coran mae Muhammad yn dweud ‘Rhodd mwyaf Duw yw iechyd da, a dylai pawb gyrraedd y nod drwy adfer hynny nawr ac yn y dyfodol’.

Wnes i ddim meddwl wrth fynd i Myddfai, y down o hyd i drysorfa o hanes sy’n ein clymu ni o’r gorllewin i’r dwyrain. Na sylweddoli bod eraill ymhell yn ôl wedi rhannu gwybodaeth newydd am ein hunan-les ni fel dinasyddion y byd.

Byd bach neu byd rhy fawr i fethu (i ddwyn sylw am gwmniau!). Achos cwmniau o bobl ydym yn byw rhwng rhith a lledrith. A realiti afiach ambell waith.

 

 

Pin It on Pinterest

Share This