First published in a fortnightly column in the Western Mail, 6 June 2024.
Mae’n anodd meddwl am fis Mai bellach heb feddwl am daith i ŵyl y Gelli. Fel un a wahoddwyd i ddallen yno, yn yr ail flwyddyn o’i chread gan Peter Florence ac i griw bychan bryd hynny mae’r atyniad i gael bod yno yn parhau. Mae cael eistedd mewn pafiliwn i wrando ar siaradwyr yn ymhelaethu eu syniadau yn bleser pur. Yn ein byd o sydynrwydd o orfod traethu heb dynnu anadl bron – fel a ddigwyddodd ar deledu neithiwr (dadl arweinwyr gwleidyddol) – mor foethus yw cael trafodaeth hamddenol, ddeallus.
Y digwyddiad yr es iddo oedd tair newyddiadurwraig: Hind Hatuqa, Dalia Hatuqa, Lindsey Hilsum (Channel 4). Rhaid imi gyfaddef fy mod wastad wedi edmygu merched sydd wedi mentro i faes y gad i adrodd yn ôl am yr erchyllterau mwyaf a hynny yn groyw heb emosiwn. Sut mae modd cadw teimladau dan reolaeth o weld yr hyn a welant yn y mannau mwyaf dychrynllyd – fel Gaza? Wrth gwrs, yr anallu i gael mynediad i Gaza oedd rhan o’r sgwrs a’r tair yn dweud y byddent yn mynd yno pe baent yn cael mynediad. Roedd un ohonynt yn byw yn y ‘Llain Orllewinol’ (West Bank) ac roedd ei thystiolaeth o’r ffordd yr oedd wedi methu â mynd yno yn ddadlennol. Ceir teithebau o liwiau gwahanol i rai o’r ddwy ran o Balesteina – gwnaeth gais y tro cyntaf a dywedwyd nad oedd yn 30 mlwydd oed. Arhosodd bum mlynedd, a gwneud cais eto yn 35 mlwydd oed. Y tro hwn fe’i gwrthodwyd am nad oedd yn ‘briod’! Dyna mewn cwta cwpwl o funudau ddarlun o’r ffordd annynol y caiff y Palestiniaid eu trin. Atgof hefyd o apartheid unwaith. Ac i goroni’r cwbl, dywedodd i’w gŵr sydd o’r Unol Daleithiau yn wreiddiol wneud cais, a chael perffaith hawl i fynd yno.
Dim ond pipo drwy dwll y clo megis ond gwerthfawr o gofio’r byd amrantiedig yr ydym yn byw ynddo. Rhaid cyfadde fy mod wedi dilyn hanesion merched fu’n newyddiadura mewn rhyfeloedd a’u lladd ers tipyn. Yr un amlwg yw Marie Colvin a laddwyd yn Aleppo ac mae Cofiant hyfryd iddi gan Lindsey Hilsum ‘In Extremis’ sydd yn werth ei ddarllen. Un arall (a diolch i’r Gelli eto am fy ngoleuo), yw Anna Politkovskaya a adroddodd mor loyw am ddulliau erchyll Rwsia o erlid gwirionedd. Ysgrifennodd ‘Putin’s Russia’, ac er carchar ac artaith, yn y diwedd cafodd ei lladd yn 56 oed. Bu’r enwocaf farw yn Mynyw sef Martha Gellhorn. A hynny’n dawel o’i llaw ei hun yn ei ffordd ei hun o wybod bod cancr arni. Mae ei llyfr ‘The Face of War’ hefyd i mi yn glasur gyda gair a gwirionedd yn dal gobaith ein dynoliaeth.