First published in a fortnightly column in the Western Mail, 23 May 2024.
Un o’r meddylwyr mawr yr ydw i’n hoff o wrando arno yw Yuval Noah Harari. Iddew yw a brodor o Israel a rhai o’i lyfrau mwyaf llwyddiannus yw Sapiens, hanes y ddynoliaeth neu 21 gwers yn yr unfed ganrif ar hugain. Yr hyn sy’n ei wneud yn ddyn pwysig ein cyfnod yw ei fod yn medru edrych ar y ddwy ochr i ryfel – fel Israeliad ond hefyd fel un sy’n cydymdeimlo gyda thynged y Palesteiniaid. Fel y dywedodd dinasyddion cymhedrol eraill tebyg iddo fel Amos Oz, neu David Grossman, mae gan y ddwy genedl ( a derbyn bod ac y bydd Palesteina yn cael ei chydnabod fel cenedl, yn hwyr neu’n hwyrach) gysylltiad dwfn a’r hawl ar yr hyn a elwid unwaith y tiroedd Sanctaidd. Prin yw’r sancteiddrwydd y dyddiau hyn.
Y drafferth yw bod y ddwy ochr am ei hawlio i GYD. Does dim rhannu yn bosib meddant. Ac mae Israel fel Palestina yn credu y dylid dileu – gwaredu’r naill genedl a’r llall o’u bodolaeth. Fe wnaeth Harari sôn hefyd am y Rhufeiniaid a’r hyn a ddysgwyd o’r hanes diflas hwnnw ddwy fil o flynyddoedd yn ol, a dyma ei eriau cofiadwy – ceisiodd yr Ymerodraeth Rufeinig ddileu a dymchwel er mwyn y llawenydd o fod yn uwchraddol ac o gael grym llwyr – ‘what a waste of time’!
Yr ateb meddai, fel eraill, yw dwy genedl i gyd-fyw ac yn y pen draw ffynnu fel cenhedloedd ond mae’r ffaith nad yw llywodraeth Israel yn fodlon hyd yn oed ystyried hynny yn ei gadael mewn tywyllwch. Credodd mai gobaith Hamas – a’r cynllwyn ffiaidd oedd cychwyn rhyw fath o chwyldro, un a fyddai’n tynnu’r ddwy filiwn o Balesteiniaid sy’n byw yn Israel allan i ymosod ar eu cyd-ddinasyddion. Ond na, wnaethon nhw ddim – dim ond cydymdeimlo ac arswydo yn dawel gyda’r hyn ddigwyddodd.
A dyma ni nawr yn gweld Palesteiniaid yn newynu ac eithafwyr o Israel yn ceisio rhwystro loriau rhag cael mynediad i Gaza – rhai llawn eu bol a llawn eu brol am weld tranc trueiniaid dros y ffin.
‘America is hard to find’ yw un o gerddi a theitl llyfr Daniel Berrigan a garcharwyd am brotestio yn erbyn y rhyfel yn Fiet Nam yn y chwedegau. Un dewr oedd, yn barod fel Iddew i ddweud am yr ofn o feirniadu Israel ‘lest I be accused of genocide’. Roedd hynny nol yn Chwefror 1974. Aeth hanner can mlynedd heibio a rhai’n cefnogi Israel beth bynnag eu gweithredoedd ‘rhag ofn’ eu pardduo – fel ‘ the new anti-semitism’, bathiad newydd Netanyahu. Dim shwd beth. Dymuwn y gorau i Israel, ac am iddi lwyddo. Mae’r alwad ar y ‘civilised world ‘ i’w cefnogi yn chwithig.
Rhaid iddyn nhw ymddwyn yn fwy gwaraidd yn gyntaf.