Llangrannog

May 11, 2024

a house on a cliff overlooking the ocean

First published in a fortnightly column in the Western Mail, 9 May 2024.

Er teithio i fannau pell yn ystod y blynyddoedd a fu, does unlle yn rhoi mwy o bleser i mi na theithio i fan ym mae Ceredigion. I fod yn fwy penodol i Langrannog. Rwy wedi colli cownt o’r gwyliau a dreuliais mewn llecyn yno wyneb yn wyneb â’r môr. Mae ei hanes yn ddigon i wneud i rywun ryfeddu o’r cyfnod cynharaf hyd at heddi. Anodd credu filoedd ar filoedd o flynyddoedd yn ôl nad oedd Llangrannog ar yr arfordir o gwbl ond yn wastadedd lle roedd pobl yn hela a chasglu bwyd fel y gallent a hynny cyn i lefel y môr godi a chyfnod yr oes ia ddisgyn. Mae cerdded draw i Lochtyn bob amser yn bleserus er mor serth yw er mai rhai ‘n amau mai Llychlyn neu Llychdyn oedd tarddiad yw enw gyda rhywun o dras Sgandinafia yn anturio’r mannau hynny.

Mae’n Wyl Banc Mai ac er hanes y dydd arbennig hwn o weithwyr ar draws y byd yn ei ddathlu, am ryw reswm dyw e ddim yn teimlo felly. Does fawr o ysbryd jolihoetian yma. I ddechrau mae’n dawelach – hwyrach am fod yr esgid (neu’r boced) fach yn gwasgu. Y tro diwethaf i mi fod yma doedd dim modd mynd heibio i Garreg Bica am fod rhuban coch ar draws y traeth yn rhybuddio’r cyhoedd fod morlo newydd eni un bychan a’r ofn y byddai pobl yn hala ofn ar y fam, a hithau’n o ganlyniad yn gadael ei newydd anedig ar ôl.

Mae rhyw swyn anghyffredin yn y rhan hon o Gymru, gyda’i chlwstwr o draethau – O Mwnt i Benbryn, Cwmtydu a Chei Newydd gerllaw, heb anghoifo Tresaith a Penbryn. Mae hanes y llongau a fyddai’n hwylio o le i le yn cario nwyddau yn rhan o’n chwedloniaeth ac wedi eu anfarwoli hefyd gan straeon T Llew Jones yn bennaf. Hoffaf syniad y diweddar Jan Morris a gredodd fod arfordir Cymru fel pe bai’n edrych allan ar y byd tu hwnt iddi. ‘Gweld y môr gynta yw un o’r cerddi rwy’n dal i deimlo yn falch o fod wedi ei chreu o gofio cyffro fy mrawd a minnau am ‘fod y cynta i weld y môr’ wrth yrru o gwm Tawe yn blant. Un o linellau’r gerdd yw ei fod ‘yr agosa y down at ddarganfod gwir ryfeddod’.

Mae yna atyniad arall yn Llangrannog bellach, sef y cerflun neu’ r gofgolofn chwaethus ac urddasol o’r bardd Cranogwen sydd wedi ei gosod mewn gardd ynghanol Llangrannog. Roeddwn mor falch o allu trafod ei gwaith gyda’r ceflunydd wrth iddo gynllunio’r gofgolofn nodedig ac onid yw’n ddiddorol sylwi bod dwy ‘fardd’ benywaidd a chanddynt erddi i’w cofio sef Cranogwen ac Eluned Phillips, (dan bont Cenarth) a’r ddwy o Geredigion?

Pin It on Pinterest

Share This