Cyfieithiadau
Mae Menna Elfyn yn fardd a dramodydd o Gymru sydd wedi ennill llu o wobrau. Mae hi wedi cyhoeddi dros 14 o gasgliadau o farddoniaeth, yn ogystal â nifer o lyfrau ffeithiol, libretti ar gyfer cyfansoddwyr y DU ac UDA, dramâu ar gyfer teledu a radio, nofelau plant, a phrosiectau celf ar y cyd.
Mae ei gwaith wedi cael ei gyfieithu i dros ugain o ieithoedd, ac mae hi wedi derbyn Gwobr Barddoniaeth Dramor Ryngwladol amdano yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’n ystyried ei hun yn fardd rhyngwladol gyda thafod Cymraeg, ac mae’n annog cyfieithu ei barddoniaeth Gymraeg, boed hynny trwy brosiectau ar y cyd neu drwy deithio’n helaeth ledled y byd, o wyliau barddoniaeth rhyngwladol i ddigwyddiadau a chyfnodau preswyl wedi’u trefnu.
Pan gyhoeddodd Menna ei cherddi dethol cyntaf Eucalyptus ym 1995, galwodd y bardd a chyfieithydd amlwg Tony Conran hi ‘y bardd Cymreig cyntaf mewn pymtheg can mlynedd i wneud ymgais o ddifrif i wneud ei gwaith yn hysbys y tu allan i Gymru’ gyda’r Cyngor Prydeinig hefyd yn nodi ers hynny mai Menna yw ‘efallai’r bardd Cymraeg mwyaf adnabyddus yn rhyngwladol, ac yn sicr yr un sydd wedi teithio’r byd fwyaf.’
Mae hi’n Athro Emeritws Barddoniaeth ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac hefyd yn Gymrawd dwy brifysgol arall yng Nghymru. Mae hi’n Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol ac ar hyn o bryd mae’n Llywydd Wales PEN Cymru sy’n ymgyrchu dros ryddid mynegiant awduron ledled y byd.