
Catalonia – darlleniad am Catrin Glyndŵr
Edrych ymlaen at ddarllen yn Barcelona unwaith eto – darlleniadau am Catrin Glyndŵr. Hyfryd cyd-rannu llwyfan gyda’r bardd Silvia Aymerich-Lemos, cyfieithydd y casgliad dwyieithog Murmuri (Cymraeg/ Catalaneg), 2012. Braf oedd cael cyflwyno copi o'm cyfrol Murmuri/...

Lansiad Senedd – ‘Caned Pobl y Byd’
Gwych oedd lansio yn swyddogol neithiwr yn y Senedd, cyfrol o farddoniaeth Cymraeg, Arabeg a Saesneg gydag un o’r ddau gyfieithydd yn bresennol i ddarllen gyda mi sef Rawan Sukkar. Roedd hi’n braf clywed merched ifanc hefyd yn rhan o’r digwyddiad gan ddarllen yn...

Darlleniadau lansio ‘Parch’
Falch i rannu gyda chi fanylion darlleniadau i lansio ‘Parch’, Bloodaxe, yn ystod yr wythnosau nesaf. Er mwyn manylion llawn ewch yma: Darlleniadau Lansio 'Parch'.

Lansiad gyda Menna Elfyn, Selima Hill & Kit Wright
Ymunwch â Bloodaxe ar gyfer y digwyddiad / lansiad teitlau newydd yr Hydref gan Menna Elfyn, Selima Hill a Kit Wright. Bydd Menna Elfyn a Kit Wright yn darllen yn fyw ac yn trafod eu cyfrolau newydd gyda’r gwestai, golygydd Bloodaxe Neil Astley gyda Selima Hill yn...

Dafydd El y ‘Cywiriadwr’
Trist ond falch oeddwn o fod yn bresennol yn angladd yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas - un a fu’n ffrind i mi (a’r teulu), yn amddiffynydd bardd weithiau i ganu’n wahanol i’r traddodiad - yn wleidydd angerddol, yn llenor praff. Roedd yn ddyn mawr ein cenedl - ond heb...

Reading with Simon Armitage, Poet Laureate
Delighted to have read alongside Simon Armitage at the staff library, Morriston hospital staff library last week. What a wonderful celebration it was – I cannot think of a place more in touch with ‘words’. Beating heart of poetry is also the beating heart of the NHS...

‘Y Bachgen a’r Wal’ llyfr lluniau
Cefnogwch blant Palesteina: ‘Y Bachgen a’r Wal’ llyfr lluniau elusennol ar gael nawr “Daeth y gwaith hyfryd hwn i’m sylw yn ystod fy nghyfnod fel Bardd Plant Cymru. Roeddwn mewn cyswllt a’r ganolfan ac roeddwn yn ymwybodol o’r gwaith ysbrydoledig yr oeddent yn ei...

‘Trugaredd sy’n gwybod’
Colofn Gymraeg bob pythefnos yn y Western Mail, cyhoeddwyd gyntaf ar 5 Rhagfyr 2024. ‘Trugaredd sy’n gwybod’ oedd un o ddywediadau ein teulu ni pan oeddwn yn blentyn. Fel arfer fe’i ddywedwyd pan oeddwn yn cam ymddwyn am rywbeth neu gilydd. Cofio meddwl o’i ddweud...

Islwyn Ffowc Elis
Colofn Gymraeg bob pythefnos yn y Western Mail, cyhoeddwyd gyntaf ar 21 Tachwedd 2024. Gan ei bod hi’n ganmlwyddiant geni Islwyn Ffowc Elis eleni, mor braf yw ei gofio. A chofio a wnaf i Islwyn ddod i siarad â ni yn y chweched dosbarth yn Ysgol Ramadeg ( y...

Waldo Williams: bardd y lleiafrif aneirif
Pleser chwerwfelys oedd cael rhoi’r ddarlith flynyddol ar Waldo Willams nos Wener diwethaf yn y Brifysgol yn Aberystwyth. Aeth 120 o flynyddoedd heibio ers ei eni ond mae ei farddoniaeth a’i gred mewn heddwch mor werthfawr ag erioed. Ac eto, mae ei genadwri mor bell i...

Fy Enw i yw Rachel Corrie (16 – 19 Hydref 2024)
Yr hydref hwn, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnal pecyn o waith sy’n codi ymwybyddiaeth am yr argyfwng dyngarol presennol yn Gaza ac yn creu cysylltiadau creadigol newydd rhwng pobl ifanc yng Nghymru a Phalesteina – gyda throsiad newydd i’r Gymraeg o’r ddrama My...

Beth yw heddwch?
Colofn Gymraeg bob pythefnos yn y Western Mail, cyhoeddwyd gyntaf ar 12 Medi 2024. ‘Ti’n gwybod lot o eiriau a ti’n eu cofio nhw i gyd’ medd fy wyres un noson ar ôl gorfod dod i wrando arnaf yn darllen barddoniaeth yn rhywle. Wrth gwrs cofio geiriau yw rhagamod a...

‘Y Griafolen’ i Ilhan Sami Comak
‘Y Griafolen’ i Ilan Sami Comak, bardd arobryn Cwrdeg sydd wedi bod yn y carchar yn Nhwrci ers 30 mlynedd. https://youtu.be/x73K-f21sNE

Mae pob tymor yr un fath yn y carchar
Colofn Gymraeg bob pythefnos yn y Western Mail, cyhoeddwyd gyntaf ar 29 August 2024. Mae’n ddiwedd haf. Ac yn dechrau teimlo’n hydrefol eto. Ond i un cyfaill i mi, bardd o’r enw Ilhan Sami Comak, mae pob tymor yr un fath – achos bu yn y carchar yn Nhwrci am 30...

Darlith Waldo 2024
Gellir gweld darlith wedi ei recordio yn llawn yma: Darlith Waldo