Mynd a dod. Mae hanesion môr wastad yn rhoi salwch môr i mi. Er does dim byd yn fwy dymunol na chael nofio yn Sir Benfro. Erbyn i chi ddarllen hwn hwyrach y byddaf wedi oifad am y tro cynta eleni.
Ond ym Mecsico flynyddoedd yn ôl bues i bron â boddi wrth fynd allan o’m dyfnder yn y Pasiffig. Dylwn fod wedi sylweddoli nerth y tonnau a chael a chael oedd hi i gyrraedd y lan. Yn blentyn, roedd mam bob amser yn gwybod am bod trasiedi ‘boddi’ ar draws Cymru a lle bynnag yr awn ar wyliau neu ymweld â thraeth arbennig byddai stori neilltuol wedi ei saernio ar fy nghof.
Dyna feddylies wrth glywed am gynlluniau hanner call a dwl Priti Patel yn credu y gellid, rywsut, droi’r badau bach rownd a gwahardd ymfudwyr ar eu taith i fannau mwy diogel. Meddyliwch o ddifri , rhai gyda phlant bychain, a’r canlyniadau erchyll a ddeuai iddynt. Dim ond un aflonyddwr neu stranciwr fydde eisiau i droi’n llanast go iawn. Gallai’r weithred droi’r badau beniwaered nes boddi’r ffoaduriaid bob un. Pobl yw’r rhain ar eu cythlwng a’r rhai fwyaf ohonynt heb allu nofio. Y rhai fwyaf hefyd heb wregys achub bywyd na dim byd rhyngddynt â’r dyfnder mawr ‘yn ôl’. Mae’r dull hwn yn nodweddu holl ethos neu diffyg ethos syniadau’r llywodraeth.
A minnau ar ganol ysgrifennu’r golofn hon dyma fflach ar y cyfrifiadur yn dynodi’r llifogydd sydd yn Llundain a’r cawodydd sydyn o law. Ni chyrhaeddodd Sir Benfro hyd yma ond gallwn ddisgwyl i laweroedd eto ddianc o fannau, nid mewn badau efallai ond i breswylio mewn mannau mwy diarffordd. Mynd a dod a wnawn oll wir. A dyna a wnaeth Jack Smylie Wild wrth symud yn ôl i Gymru fel y dywedodd heb na gwaith, na ffrind er iddo gael ei fagu ar fryndir Cymru yn blentyn bychan. Cefais bleser aruthrol yn darllen y llyfr ‘Riverwise’ ( Parthian) sy’n fyfyrdod am afon Teifi o’i tharddle. Mae’n glasur bychan sy’n gyfuniad o’i ddidordeb yn y tir a’r bobl, ac mae’r cerddi hefyd yn cyfoethogi’r gyfrol. Brithir y llyfr gyda sylwgarwch rhyfeddol. O, ac mae’r hanesion am bobl a fu’n dilyn ffordd o fyw syml yn ddifyr. Gadawodd ei rieni ffeind, hipiaidd y ddinas gan fyw a magu eu plant yn ddedwydd mewn ambiwlans Bedford ac ambell babell wedi ei wneud o ddefnydd byd natur gerllaw, gan weithio hwnt ac yma. Dyma drysor o lyfr sydd gyda’r gorau imi ei ddarllen eleni. Bellach mae’r llenor dawnus Jack a raddiodd mewn Athroniaeth yn arbenigo hefyd fel pobydd arobryn Bara Menyn yn Aberteifi. Er gobeithio y caiff hamdden hefyd i barhau i ysgrifennu rhagor o lyfrau byrlymus llawn burum a chael ‘lle i enaid gael llonydd’.