Cyfieithiad o Murmur yn Basgeg a lansiwyd yn Baiona yn 2016. Ymddangosodd y gyfrol yn gyntaf o Wasg Bloodaxe yn 2012 a chafodd ei dewis gan y Gymdeithas Farddoniaeth yn Llundain a’i hargymell fel cyfrol wedi ei chyfieithu. Ceir cerddi yn y gyfrol am Catrin Glyndŵr a garcharwyd yn y Tŵr yn Llundain gyda’i phlant wedi iddynt gael eu cipio o gastell Harlech. Llwyddodd Owain Glyndŵr i osgoi cael ei ddal. Maiatz publishers, Baiona. Cyfieithwyr: Arantza Fernandez, Eli Tolaretxipi 2016.