Pleser chwerwfelys oedd cael rhoi’r ddarlith flynyddol ar Waldo Willams nos Wener diwethaf yn y Brifysgol yn Aberystwyth. Aeth 120 o flynyddoedd heibio ers ei eni ond mae ei farddoniaeth a’i gred mewn heddwch mor werthfawr ag erioed. Ac eto, mae ei genadwri mor bell i ffwrdd oddi wrth y rheiny sydd yn benderfynol o gyhoeddi rhyfel.
Dyma gerdd sydd mor berthnasol heddi ag oedd hi – yn 2006, a’r rhyfel yn Libanus / Lebanon.
Cyhoeddwyd gyntaf yn Perffaith Nam/ Perfect Blemish, Bloodaxe Books, 2007
‘Poetry an act of peace’ – Pablo Neruda
Libanus, Y Pwll, 2006 a 2024
Gorffennaf, 2006
Cŵpons dogni yn ôl,
roedd fy nhad yn weinidog
yr Efengyl yn Libanus
Y Pwll.Llanelli – chwinciad dur i ffwrdd,
yn ddwy filltir, dwy geiniog ar y tram.
Ugain mlynedd wedyn,
roedd Libanus ar y teledu,
Pwll, yn ddu a gwyn;
sawl gweinidog yn cyhoeddi,
rhagor na’r ‘Gair’.
Ugain mlynedd eto,
hyd at heddiw,
o weinidog i weinidog
a’r ‘newyddion da’ yn lludw du.
Dan geseiliau eu tadau,
llu o angylion: ar hap- epil
a’r ddamwain oedd eu damnio;
o Libanus i’r Pwll
heb waelod yn y byd.
Cŵpons dogni yn ôl
fy chwaer mewn ffrog smoc,
ar wal y Mans
ochr draw i’r fynwent
yn gwylio angladd
ar lan y bedd,
gan gredu’n ddi-ffael
mai pobl-wedi-marw
oedd pob un â hances
yn sychu dagrau;
gêm gyfri oedd marw
i’r un bedair oed;
wrth iddi rifo ugain corff
yn canu ‘Dyma gariad’.
2024
Libanus, eto ac eto —
Pwll gwag lle bu bomiau
meirwon heb hancesi,
ar deledu lliw,
yn ddu a gwyn
a sawl gweinidog
heb yr Un Gair ‘da’.
Ac ymhell o’r dwndwr,
ymhell o Libanus,
ymhell bell o’r Pwll,
ymhell o lan y bedd,
mae un yn ei elfen,
heb boeni llygedyn am ei lygredd
o dan gysur goleuni’r camerâu
yn coroni ei hun heb gorun o gywilydd.