Colofn Gymraeg bob pythefnos yn y Western Mail, cyhoeddwyd gyntaf ar Ebrill 15 2021:
Mae’r cyfnod clo hir yma wedi ein gwneud i feddwl yn fwy manwl am y pethau cyntaf a’r pethau diwethaf yn ein bywydau. Alla i ddim â meddwl am Y Pethau Diwethaf heb feddwl am gyfrol hyfryd ac ysbrydoledig yr annwyl ddiweddar Gwyn Thomas. Roedd e wastad a’i fys ar fyls pethau gyda’i gerddi. Ond mae’r wythnosau diwethaf wedi ein gwneud i feddwl yn wahanol am fys a phyls. O, a wnes i olchi fy mysedd ar ôl cyffwrdd â’r parsel a ddaeth, yn fy awydd i’w rwygo ar agor a gweld beth oedd yno?
Yn yr un modd mae’r pethau cyntaf a wnawn ar ôl cael ein hamddifadu ohonyn nhw yn mynd i aros yn y cof . Y cwtsh cyntaf, y dal llaw am y tro olaf yn achos cyfaill imi yn ffarwelio â’i thad. Pethau dwys, agos atoch y naill a’r llall. Pethau ichi golli eich gwynt am ennyd cyn diolch am yr anadl. Fe ddywedais ryw dro mai ‘ anadl einioes’ oedd fy hoff eiriau – gyda’i gilydd wrth gwrs achos mae un heb y llall yn hollol ddiystyr.
Y pethau cyntaf te. Wel wir, roedd y fath orfoledd yn lleisiau’r rhai yn cael eu peint cyntaf – y bariau ar agor a’r clybiau tu allan. Dyna sy’n bwysig, ‘ have some fun’ yng ngeiriau Prif Weinidog San Steffan, un sydd wedi cael ei siâr o hwyl weden i. Rhyfedd meddwl mai dyna’r flaenoriaeth yn Lloegr . Yn Ffrainc, mynnodd siopau llyfrau gadw eu drysau ar agor er y feirws. Ac yn ôl un cyfarwyddwr celfyddydol ei bod hi’n ddiddorol y flaenoriaeth roddwyd i’r mannau disychedu cyn orielau, amgueddfeydd a theatrau—hwyrach awgrymodd am nad oedd y criw sydd mewn grym , Y Toriaid wedi gwybod rhyw lawer amdanynt! Y pethau cyntaf a’r pethau diwethaf ontife. Peint cyn paentiad, tecila cyn theatr. Ond gwn am sawl un sy’n ymfalchio eu bod yn cael croesi’r Bont i weld anwyliaid am y tro cyntaf ers yn agos i flwyddyn. A’r sawl sydd am weld glan môr neu ddringo mynydd .Er dylem ddiolch am aelwyd a chael neuadd fawr rhwng cyfyng furiau.
Wrth i mi ysgrifennu hwn mae’r peth diwethaf yr oeddem am ei weld yn dechrau digwydd. Yng ngogledd Iwerddon gydag ugain mlynedd o heddwch wedi para yno, mae’r peth diwethaf yr oeddem am ei weld yn digwydd. Terfysgoedd ar y strydoedd gan rai nad oeddent efallai wedi eu geni pan ddaeth heddwch i fodolaeth. Ac yna, drwy un weithred fyrbwyll o eisiau i Brexit ddigwydd, dyma’r Prif Weinidog yn San Steffan yn cytuno – i wneud y peth diwethaf a addawodd wrth godi ffin yn y môr. Gallwn ni ond gobeithio y daw pwyll a heddwchy.
Dyna’r gobaith ddyle ddod gyntaf.