Colofn Gymraeg bob pythefnos yn y Western Mail, cyhoeddwyd gyntaf ar 10 Mehefin
Mae’r ‘Welsh Not’ yn ei hôl. Ond nid plocyn am wddf plentyn bach mewn ysgol mohono. Y tro hwn mae e wrth benelin diplomat neu aelod o staff y Llywodraeth yn Llundain. Diolch i Nation Cymru am y pennawd a’m sobrodd ‘ UK Government to tell staff to stop referring to Wales as its own country’. Hanner awgryma’r pennawd fod Cymru yn berchen ar ei gwlad ei hun ond nad yw i gydnabod hynny’n gyhoeddus. Yn hytrach, bydd cyfarwyddyd i’r staff nodi eu bod yn rhan o’r Undeb, ac yn un WLAD. Mae e fel gofyn ichi ddiarddel aelod o’ch teulu: eich tad, mam, brawd, chwaer – er mwyn ichi nodi eich bod yn rhan o’r Ddynoliaeth. Yr Undeb? O, gyda baner Jac yr Undeb y tu ôl i’ch cadair os ydych ar gamra .
Unwaith eto mae hyn fel tynnu tir o dan draed y Cymry. Yn ymgais i ddileu ein gwahanrwydd. Rhag tynnu’n groes. Yn groes i beth wn i ddim. Yn groes i’r ymgais i chwyddo Imperialaeth Seisnig newydd o gwmpas y byd. Global Britain. Dywedwyd bod Boris Johnson yn flin wrth glywed Joe Biden yn cyfeirio at y berthynas arbennig rhwng America a Phrydain, a hynny am ei fod yn gwneud i Brydain swnio’n ‘anghenus’ a ‘gwan’. Affwysol wir.
Cyhoeddwyd llyfr yn ddiweddar, ‘ After the Fall’ gan Ben Rhodes sy’n egluro sut y mae democratiaeth yn cael ei ddileu yn dawel bach, gam wrth gam. Newid y ffiniau etholiadol – 10 mwy o seddau yn Lloegr. Yna, llanw seddau Tŷ’r Arglwyddi, gyda chyfeillion . Cyfeillgarwch am byth! Ystyr ‘enaid hoff cytûn’ yw rhoi symiau a chytundebau haelionnus i rai. O, a bod yn ‘ annoeth’ meddir yw’r camgymeriadau a wnaeth Boris ac yna Matt a’i chwaer yn cael cytundeb da— ond ‘mân esgeulustod’, rhyw darfiad bach ydoedd. Mae gallu’r ymchwilwyr i beidio â chyhoeddi bai yn rhyfeddol.
Wel hyd yma, mae Cymru yn dal mewn bodolaeth a’r Gymraeg yn dal ar dafod lleferydd. Nos Sadwrn diwethaf yr oeddwn yn Sassari, Sardinia yn lansio fy nghyfrol Eidaleg o Bondo. Fis nesaf bydd yn ymddangos yn Sbaeneg a dydd Iau byddaf yn siarad mewn cynhadledd yn Cordoba am ieithoedd lleiafrifol mewn cyfnod o wrthdaro. A hyn oll o gadair esmwyth y lolfa. Onid prawf yw hyn, nad oes modd dileu cysylltiadau rhwng gwledydd diwylliannol â’i gilydd?
Ond os yw y Welsh NOT ar ei newydd wedd i ddigwydd, beth am Ogledd Iwerddon? Onid oedd yna gytundeb heddwch, un nad oedd neb i ymyrryd â hi? Y Protocol hollbwysig. Y gwir yw roedd y llywodraeth ar dân am roi diweddglo ar Brexit, a thrwy hynny yn fodlon gweld fflamau tân o fath arall ar strydoedd Belffast. Global Britain, yr Imperialaeth newydd a chyfeddiannu—ond ai am byth?