Bywgraffiad
Menna Elfyn.
Bardd a dramodydd Cymraeg arobryn sydd wedi cyhoeddi pedair ar ddeg o gyfrolau o farddoniaeth yn Gymraeg ac yn ddwyieithog Cymraeg/ Saesneg. Mae ei gwaith yn cael ei astudio mewn ysgolion a Phrifysgolion yng Nghymru a thu hwnt. Ei chyfrol ddiweddaraf yw Bondo (2017) o wasg Bloodaxe ac enillodd ei chyfrol ddwyieithog flaenorol Murmur (Bloodaxe, 2012) glod gyda chymeradwyaeth y Gymdeithas Lyfrau Barddoniaeth, a’r gyfrol gyntaf erioed i gael ei dewis yn Gymraeg / Saesneg.
Cyfieithiwyd ei gwaith i 20 o ieithoedd gan gynnwys Tsienieg, Sbaeneg, Eidaleg, Lithiwaneg, Catalaneg ayb a hi yw’r mwyaf adnabyddus o’r holl feirdd Cymraeg.Teithiodd i bedwar ban byd gyda’i barddoniaeth i Wyliau Ryngwladol Barddoniaeth a chynnal preswylfeydd. Enillodd nifer o wobrau megis Llyfr y Flwyddyn 1990, a gwobr nodedig Ryngwladol Anima Instraza yn Sardinia am ei chyfraniad i farddoniaeth Ewrop. Fe’i gwnaed yn Fardd Plant Cymru yn 2002.
Mae ei chyfrol ddiweddaraf ddwyieithog Bondo ( 2017) newydd gael ei gyfieithu i’r Eidaleg ac ar waith mae’r gyfrol i’w chyfieithu i Bwyleg , Almaeneg a Rwsieg a fydd yn ymddangos cyn diwedd y flwyddyn.
Cyhoeddodd Lên Gofiant – Cennad o Wasg Barddas ym mis Mawrth 2018.
Ymddangosodd Optimist Absoliwt (Gwasg Gomer) ei bywgraffiad o‘r bardd Eluned Phillips yn 2016 a bu ar restr fer Llyfr y Flwyddyn. Yna, ymddangosodd Absolute Optimist, y gyfrol yn Saesneg o wasg Honno a’i lansio yn Washington DC ym mis Awst 2018.
Hi yw’r ferch gyntaf i gael cadair fel Athro Barddoniaeth a hynny ym Mhrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant. Llwyddodd i berfformio ei gwaith yn Gymraeg a Saesneg i gynulleidfaoedd y tu allan i Gymru a mabwysiadu dull unigryw o gyflwyno’r cerddi drwy adlewyrchu yr agosatrwydd a’r gwahaniaeth sydd wrth drosglwyddo’r naill iaith a’r llall i gynulleidfaoedd newydd.
Hi yw Llywydd anrhydeddus Wales PEN Cymru.
Gwobrau.
1977: Gwobr Cyngor y Celfyddydau
Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam am ‘gyfrol o gerddi’: Stafelloedd Aros
1990: Gwobr Cyngor Celfyddydau Cymru
Llyfr y flwyddyn – Aderyn Bach mewn Llaw
1999: Ysgoloriaeth Cyngor y Celfyddydau i ysgrifennu nofel am blant y stryd yn Mecsico
2000 – 2010 : dwy ysgoloriaeth Ysgrifennu Cyngor y Celfyddydau
2001: Rhest fer Llyfr y Flwyddyn: Cusan Dyn Dall / Blind Man’s Kiss
2002 – 2003: Bardd Plant Cymru
2009: Gwobr Anima Istranza – Gwobr Ryngwladol – cyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg
2007 – 2008: Ysgoloriaeth Cymru Greadigol – Cyngor Celfyddydau Cymru
2017: Rhestr Fer Cyngor Celfyddydau Cymru: Optimist Absoliwt
Lansiad Cennad
Cerddi o Bondo