Cefnogwch blant Palesteina: ‘Y Bachgen a’r Wal’ llyfr lluniau elusennol ar gael nawr
“Daeth y gwaith hyfryd hwn i’m sylw yn ystod fy nghyfnod fel Bardd Plant Cymru. Roeddwn mewn cyswllt a’r ganolfan ac roeddwn yn ymwybodol o’r gwaith ysbrydoledig yr oeddent yn ei wneud. Mae rhannu’r stori hon i blant nid yn unig yn cefnogi’r ymdrech codi arian dyngarol ond hefyd yn rhannu neges o obaith o blant sy’n byw drwy ddadleoli a gwrthdaro.” – Menna Elfyn, Llywydd Wales PEN Cymru
Mae llyfr lluniau newydd i blant, Y Bachgen a’r Wal, wedi’i greu gan ffoaduriaid Palesteinaidd o wersyll Ffoaduriaid Aida ym Methlehem, wedi ei ryddhau i godi arian ar frys i SOS Children’s Village Palestine. Mae’r llyfr wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg sy’n cael ei gynnwys ochr yn ochr â’r Arabeg a’r Saesneg gwreiddiol ac yn cyfuno stori rymus gyda gwaith celf collage gan ieuenctid Canolfan Lajee. Bydd holl elw o werthiant y llyfr yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi plant a theuluoedd bregus ym Mhalesteina, gan ddarparu gofal ar frys, cymorth iechyd meddwl a chefnogaeth ariannol.
🛒 Prynwch y llyfr fan hyn: Siop Sgema
🌍 Dysgwch fwy am SOS Children’s Village Palestine