Does neb biau iaith. Iaith sy biau ni neu’n berchen ar ein ffordd o’i thrin. Dyna pam y mae’r ymdeimlad ei bod, y Gymraeg, yn perthyn i bawb yng Nghymru o’r rhai sy’n darllen ac adnabod enwau lleoedd i alw ffrindiau â’u henwau Cymraeg. Rwy’n cofio myfyriwr yn dweud wrthyf iddi rannu fflat unwaith gydag Saesnes a’i chlywodd ar y ffôn yn siarad Cymraeg gan ddweud ‘Oh I thought Welsh was something you did on Sundays’!
Dyma ddathlu eleni ddarlith ysgytwol Saunders Lewis ‘Tynged yr Iaith’ a’i broffwydoliaeth y gallai’r iaith ddiflannu cyn diwedd yr ugeinfed ganrif. Gallwn lawenhau ei bod yn fyw o hyd ar dafodau cenedlaethau o’r hynaf i’r lleiaf. Gobeithiaf fod mewn Rali a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith yn Aberystwyth ddydd Sadwrn nesaf gan gofio gymaint o hwb oedd hi pan oedd rhai yn eu hoed a’u hamser yn cefnogi’r Gymdeithas mewn protestiadau o’r chwedegau ymlaen. Bellach, rwyf innau’n perthyn i’r to hŷn! Roedd cyfweliad Mabli Siriol Jones, Cadeirydd y Gymdeithas ar raglen deledu ddydd Sul diwethaf yn ysbrydoledig wrth gyflwyno achos yr iaith yn huawdl a hyderus.
Un o lwyddiannau ymgyrch yr iaith oedd trawsnewid o fudiad i fod yn Symudiad: o arwyddion i ysgolion, i bolisiau a bellach i daclo problem y troad allan o’r broydd Cymraeg a’r perygl mwyaf hyd yma. Ond dyna ni. Rwy newydd gael copi o lyfr dadlennol Richard King ‘Brittle with Relics’ o Wasg Faber. Teitl ogleisiol Saesneg am Hanes Cymru 1962- 1997 yw sy’n llawn hanesion gan wahanol rai o’r hyn a olyga’r iaith a chenedligrwydd iddynt. Sgyrsiau blith draphlith ydynt fel pe baent yn sgyrsiau seiat slawer dydd, neu’n chwedleua o gwmpas y tân a phawb yn dweud pwt – ‘Brau yn wir a gyda chreiriau. Gwneir hyn ar lafar yn wahanol iawn i brotest Al Weiwei yr artist mewn gweithred wrth chwalu llestr serameg o Tsieina o flaen torf er mwyn dangos dinistr ei etifeddiaeth. Ond llestr cyfan yw’n hetifeddiaeth ni gydag arliwiau gwahanol o ymwneud â’r genedl o’i gwmpas. Dyna ogoniant ein hanes, ac mae’n bryd dileu y gair DI-Gymraeg am air cynhesach. Cymry ydym oll.
Wrth lunio’r golofn hon, daeth y newydd am farwolaeth Aled Roberts, Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, un a wnaeth gyfraniad clodwiw i Gymru fel arweinydd Cyngor, fel aelod o’r Senedd am gyfnod, ac yna yn benllanw ei yrfa’n arwain y Gymraeg i sefyllfa gadarnach gan weithredu mewn modd deallus a doeth. Roedd clywed am ei amryw gyfraniadau i ddiwylliant a dycnwch ei ymwneud â’i fro yn y Rhos yn dangos mor hollbwysig oedd ei swyddogaeth mewn cynifer o feysydd. Rhyddfrydwr a Chymro i’r carn— a mawr fydd ei golled i’w deulu a Chymru benbaladr.