Colofn Gymraeg bob pythefnos yn y Western Mail, cyhoeddwyd gyntaf ar 29 August 2024.
Mae’n ddiwedd haf. Ac yn dechrau teimlo’n hydrefol eto. Ond i un cyfaill i mi, bardd o’r enw Ilhan Sami Comak, mae pob tymor yr un fath – achos bu yn y carchar yn Nhwrci am 30 mlynedd. Yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Istanbul, cafodd ei arestio gyda channoedd eraill a’i gyhuddo ar gam o berthyn i ‘r PKK (Kurdistan Workers Party), plaid anghyfreithlon . A’i ddedfrydu i garchar am oes. Cafodd ei arteithio a’i gludo i ben mynydd, rhoi can gwag o betrol yn ei law fel prawf iddo geisio rhoi coedwig ar dân. Ystryw i’w garcharu.
A dyma glywed yn awr na chaiff ‘parôl yn ôl yr addewid. Bellach, mae’n fardd rhyngwladol achos fe drodd bopeth yn ei gaethiwed yn farddoniaeth a chyhoeddi hyd yma wyth cyfrol o farddoniaeth, ac ennill gwobrau lawer mewn sawl gwlad. Mae rhai o’i gyfrolau yn cyfleu ei bersonoliaeth — ‘Mynd fel blodau sych’, ‘Môr Agored’, ‘Bore da ddaear’, ‘Emyn gan gathod’, ‘Gwersi glaw’, ‘Dyddiadur y Tigris’, ‘Un bore, cerddais’. Caroline Stockford, a gyfieithodd ei waith i’r Saesneg yn odidog.
Rhyw dair blynedd yn ôl fel Llywydd PEN Cymru anfonais gerdyn a cherdd iddo bob mis wedi hynny. Rhyfedd o beth yw bod Twrci fel gwlad yn edmygu barddoniaeth ac felly does byth problem i gael cerddi wedi eu trosglwyddo iddo. Bob mis, byddaf yn prynu cerdyn celf liwgar – dim ots wedyn os yw’r gerdd yn eilradd! achos mae ganddo rywbeth hardd i fyfyrio yn ei gylch. Mae’n gwybod bellach am Waldo a Niclas y Glais ac wedi concro pob rhwystr – drwy fyw’n rhadlon yn ei ddinodedd. Peth arall o’r tu allan onide yw enwogrwydd bardd.
Er iddo anfon ambell gerdd ataf dyma bwt o un sy’n cyfleu y math o berson yw:
‘dewch i‘m adnabod drwy fy nghariad, nid fy unigrwydd / dewch i’m deall am yr hyn rwy’n crefu amdano – nid am yr hyn a gollais. Dewch i’m deall drwy fy mhlentyndod ac nid gan y myfi sydd – heddiw. Rwy’n chwilio amdanoch’.
Mewn llythyr arall ataf mae’n dweud – chi yw fy ysgol – a sonia am gân werin sy’n gadael rhywun mewn ffynnon dywyll heb ysgol’. Dywed mai ‘ni’ feirdd y byd yw ei ysgol. Ysgol ‘brofiad’ efallai? Mor hawdd yw hi i feirdd weithiau – ymhobman deimlo iddynt gael cam neu eu camddeall. Mae carchariad Ilhan yn tystio i gam go iawn a’r ymgyrch yn parhau i’w ryddhau, ryw ddydd. Daw geiriau Arundhati Roy i’r meddwl ‘peidiwch byth ag anghofio eich dinodedd’. Am wers amserol. Y fath nodded a gawn fel beirdd yng Nghymru heddi — ochr yn ochr â’r cam a wnaed yn erbyn y Cwrd a’r prif fardd eang ei ysbryd— Ilhan Sami Comak.