Colofn Gymraeg bob pythefnos yn y Western Mail, cyhoeddwyd gyntaf ar 21 Tachwedd 2024.
Gan ei bod hi’n ganmlwyddiant geni Islwyn Ffowc Elis eleni, mor braf yw ei gofio. A chofio a wnaf i Islwyn ddod i siarad â ni yn y chweched dosbarth yn Ysgol Ramadeg ( y Frenhines Elisabeth) yn y chwedegau. Gallaf gofio lle roeddwn yn eistedd hyd yn oed ac rwy hefyd yn cofio ei ffordd hamddenol o adrodd fel y dechreuodd ysgrifennu ‘Cysgod y Cryman’. Cofio’r wefr, cofio’r fath ddylanwad a gafodd y nofel arnaf a’r posibiliadau o fyw mewn modd cydweithredol! Ysgrifennodd ddelfryd o nofel yn ogystal a’m sbarduno i ddarllen pob dim arall a ddaeth o’i law o ‘ Blas y Cynfyd’ i’w ysgrifau hynod gyfoethog. FFolais ar bob dim a luniodd, a dwlu hyd yn oed ar y nofel ryfedd honno ‘ Tabyrddau’r Babongo’ yn1961 .Tybed pa adwaith a gai heddiw pe bai i’w hanfon i gystadleuaeth yn y Steddfod Genedlaethol !). Dywed ei hun mai ffars oedd y nofel honno a does dim modd rhoi taw ar y dychymyg,
Flynyddoedd wedi’r sgwrs honno yn yr ysgol, cefais fy hun yn gydweithydd yn yr Adran Gymraeg yng Ngholeg Llambed . Cefais gyfle i gymryd rhai o’i ddosbarthiadau pan gafodd gyfnod Sabothol i ffwrdd. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am fy mhenodi yn Gymrawd Awdur gyda Gillian Carke yn yr wythdegau a man cychwyn ‘ gweithdai’ ysgrifennu creadigol yn yr ardal ac yn y Brifysgol. Gwelai y tu hwn i gulni y sawl a gredodd bryd hynny nad oedd pwrpas cynnal ‘ gweithdai ysgrifennu. Anogwr wrth reddf oedd wrth geisio lledu’r garfan o ysgrifenwyr a hyrwyddo ysgrifennu poblogaidd. Am wn i mai fe oedd Symbylwr y cyrsiau ysgrifennu creadigol a ddigwyddodd yn ei sgil.
Ond dyn addfwyn, diymhongar oedd ag un â doniau niferus. Yn Gregynog mewn cyrsiau o’r coleg, byddai’n difyrru ni drwy ganu’r piano. Mor gynhyrchiol oedd fel cerddor yn cyfansoddi caneuon sionc a chofiadwy. Un o’r pethau rwy’n difaru yw iddo ysgrifennu ataf pan oeddwn yn yr ysgol ac yn rhan o grŵp ‘ Y Trydan’ ( mae’r record honno yn Sain FFagan lle y dylai aros!) cynigiodd mewn llythyr ynghylch ymgyrchu dros Blaid Cymru gyda’r ôl nodyn – y gallai ysgrifennu caneuon i ni fel grŵp. Sut imi beidio â derbyn ei gynnig? Hwyrach imi flino ar lusgo telyn i ‘nosweithiau llawen ‘neu yn agosaf ati – fy swildod. Rhywbeth nodwedd a synhwyrais i ni ei rannu –er mai parchedig ofn oedd achos fy swildod i.
Bu’n ddarlithydd, Darllenydd, ymgeisydd Plaid Cymru, gweinidog, yn Olygydd cylchgrawn llyfrau—dim ond rhai o’r meysydd y bu’n ymhel â hwy. Ond fe’i gofiwn fel Arloeswr ym myd y nofel, yn ysgrifwr heb ei ail a bydd ei lyfrau yn dal i ddifyrru’r cenedlaethau i ddod. Am waddol i Gymru 2024 ac esiampl perffaith o Gymro.