Fel Llywydd Wales PEN Cymru hoffem ar ran yr aelodau ddathlu canmlwyddiant PEN Rhyngwladol sef sefydliad a ffurfiwyd yn 1921 i amddiffyn hawliau awduron ledled y byd. Eleni, cynhelir y Gyngres flynyddol yn rhithiol o’r 20-24 o Fedi, 2021. Prif nod PEN ers ei sefydlu yw dathlu ac amddiffyn rhyddid mynegiant ysgrifenwyr gan amddiffyn awduron mewn perygl, rhai sydd yn y carchar am eu gweithiau creadigol, yn ogystal â chefnogi awduron sydd yn alltud o’u gwledydd oherwydd gormes. Yn ogystal â hyn mae PEN yn sefyll dros hyrwyddo hawliau ieithyddol ym mhob gwlad.
‘Sawl degawd yn ôl, roeddwn yn un o’r niferoedd a oedd yn ymgyrchu dros hawliau yr iaith Gymraeg i gael ei derbyn fel iaith swyddogol. Heddiw, daeth hi’n rheidrwydd arnom oll, ysgrifenwyr a’r rhai sy’n credu mewn rhyddid mynegiant i ymgyrchu yr un mor ddyfal dros ieithoedd awduron ledled y byd sydd yn dioddef o dan drefn eu llywodraethau gormesol.’