Colofn Gymraeg bob pythefnos yn y Western Mail, cyhoeddwyd gyntaf ar 7 Gorffennaf
Mae gen i broblem gyda chofgolofnau. Hwyrach mai fy mab yn bedair oed oedd â’r sylw gorau pan alwodd y milwr ar sgwâr Aberbanc yn ‘ddyn jocan’. A na, nid meddwl ei fod yn ddoniol oedd e ond dweud yn ei ffordd ei hun mai esgus o ddyn oedd e, nid yr un go iawn o gig a gwaed.
Llusgwyd ambell ‘ ddyn jocan’ arall i ganol cei yn ddiweddar a diosg ambell un brenhinol fan hyn a fan draw. Mae cofgolofn lurguniwyd ar orwedd bellach mewn amgueddfa a’r ffaith ei fod yn gorwedd yn symbolaidd iawn ac yn dangos mor fregus yn wir yw dyfodol pob gwneuthuriad o garreg.
Mae ambell gofgolofn yn fap reit dda, rhyw fynegbost i fan arbennig. Yn yr Wcrain, pan oeddwn yn gorfod ffeindio fy ffordd i’r Brifysgol yn Donetsk yn y boreau i gynnal gweithdai, cofiwn mai troi i’r chwith oedd raid wrth gyrraedd cofeb Lenin. Dywedwyd wrthyf yn ddiweddarach mai ffordd o sicrhau bod cofeb yn cael y taldra iawn oedd gwneud yr hyn a wnaed yn y Crimea sef torri beddau ’r Iddewon a laddwyd yn y rhyfel er mwyn rhoi seiliau cadarn o dan draed y teyrn. Gwarth parhaus megis o’r trais yn erbyn yr Iddewon hyd yn oed wedi iddynt farw a’u claddu.
Ond bu llawer o drafod am y gofeb i Diana. Pam ei bod yn dal dwylo plant ac un bach o’r tu ôl iddi yn anweladwy o un ongl? Ond dyna ni, mae’r meibion yn hapus, ac mae’r cyfan o fewn cyffiniau gerddi a Phalas. Hynny falle’n adrodd stori arall.Tywysoges drasig yn cael ei hatgyfodi mewn maen – gan fyw yng ngwynt a dannedd y frenhiniaeth efallai? Go brin mai dyna oedd eu bwriad.
Ces fy ngwahodd ugain mlynedd yn ôl i lunio cwpled a osodwyd ar gofeb i gofio Catrin Glyndŵr a’i phlant bychain. Ond bwriad y gofeb oedd cynrychioli dioddefaint y rhai diniwed mewn rhyfeloedd oherwydd eu tras. Cofeb o fath arall a drefnwyd i gofio am Helen Thomas, heddychwraig ymroddgar a’i hangerdd dros heddwch yn Comin Greenham yn cael ei gofio ar ffurf gardd arbennig yno gyda mainc yn deyrnged iddi, yn ei thref enedigol.
Cofeb go wahanol yw’r un a wnaed gan Maggi Hambling o Mary Wollstonecraft ‘ a luniodd ‘ A Vindication on the Rights of Women’ 1792. Mae’n feiddgar o annisgwyl i’w gweld yn noeth. Onid diosg rhagrith y cyfnod a wnaeth gan sefyll fel herlodes yn ei chroen ei hun?
Fel un a gyfrannodd at gronfa i gofio Cranogwen, edrychaf ymlaen at weld beth ddaw o waith y cerflunydd. Gobeithio y bydd cadarnhau ei lle yn ein rhan ni o’r byd. Gan obeithio na fydd yn cael ei gweld fel ‘menyw jocan’ gan blant bychain y dyfodol.