Mae Menna Elfyn, Athro Emerita Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi lansio fersiwn dwyieithog o’i chyfrol boblogaidd, Murmur – y tro hwn yn y Gatalaneg a’r Gymraeg.
Wedi’i chyfieithu o’r Gymraeg i’r Gatalaneg gan y bardd a’r cyfieithydd Silvia Aymerich, mae Menna a Sylvia wedi bod yn dathlu cyhoeddiad y llyfr gyda dau ddigwyddiad go arbennig – un yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin a’r llall yn y Senedd yng Nghaerdydd.
Yn ystod y digwyddiad cyntaf yn Yr Egin – canolfan greadigol a digidol wedi’i lleoli ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin – cafwyd darlleniadau gan Menna a Sylvia gan roi’r cyfle i’r gynulleidfa glywed prydferthwch sŵn geiriau’r bardd mewn dwy iaith wahanol.
Y diwrnod canlynol, cafwyd digwyddiad arall yn y Senedd yng Nghaerdydd dan nawdd Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad yng nghwmni Carles Torner, Prif Weithredwr PEN Rhyngwladol; Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
“Rwy wedi bod i ddarllen i Gatalonia niferoedd o weithiau erbyn hyn ac fe wnes i gwrdd â’r bardd a’r cyfieithydd sydd wedi cyfieithu’r gyfrol nol ym 1995…..yn ddiweddarach fe dda’th hi ar draws un o ‘ngherddi i drwy rywun arall a mynd ati i’w chyfieithu a phenderfynu cadw i fynd – a chyn bo hir roedd gyda ni gyfrol,” meddai Menna. “Tua’r un pryd roedd yr ymgyrch am annibyniaeth yng Nghatalonia’n digwydd ac felly roedd rhai o’r cerddi am Catrin Glyndŵr yn cael ei charcharu yn atseinio gyda’r hyn sydd yn digwydd yno ar hyn o bryd.”
Yn sôn am y profiad o gyfieithu gwaith Menna, meddai Sylvia Aymerich: “Fe helpodd Menna lawer arna’i. Anfonais lawer o gwestiynau ati’n aml iawn. Defnyddiais nifer o eiriaduron ac fe wnes i drio dysgu ychydig o’r iaith oherwydd – er bod fersiwn Saesneg godidog yn bodoli, roeddwn eisiau gwybod yr union eiriau yn Gymraeg a beth oedd eu hystyr a beth oedd yr hanes a’r stori y tu ôl i bob gair. Roedd Menna mor barod i helpu. Mae hi’n rhoi adenydd i ni – ac i gyfieithydd ac i fardd mae’n bwysig iawn cael adenydd wrth gyfieithu bardd arall.”
Mae gwaith Menna Elfyn eisoes wedi’i gyfieithu i 20 o ieithoedd gan gynnwys Tsienieg, Sbaeneg, Eidaleg, Lithiwaneg a Chatalaneg ac y mae wrth ei bodd yn gweld ei gwaith yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd drwy’r cyfieithiadau niferus o’i gwaith.
“Mae’n wych cael eich cyfieithu gan bobl sydd yn feirdd sydd â brwdfrydedd am y peth achos dyw e ddim yn broffwydol; mae pobl yn ei wneud e’ am eu bod nhw am rannu rhywbeth o’n diwylliant ni i’w diwylliant nhw – neu weld rhyw gysylltiadau – ac felly mae hynny yn beth hyfryd i fardd sydd yn ysgrifennu dim ond yn y Gymraeg – i ddarganfod bod ei gwaith hi mewn Hindi neu ar boster ym Mhortiwgal – mae’r peth yn dangos mai byd bach yw’n byd ni yn y bôn a gyda barddoniaeth, mae’n llai fyth.”
Bu’r Athro Menna Elfyn yn Gyfarwyddwr Creadigol ar y cwrs MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant tan iddi ymddeol yn ddiweddar. Mae bellach yn Athro Emerita gyda’r Brifysgol.
Am wybodaeth bellach ynglŷn â’r cyrsiau Ysgrifennu Creadigol a gynigir ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ewch i’r wefan yma.