Parch

Apr 19, 2022

white and black wall mounted signage

Roeddwn am ysgrifennu colofn yr wythnos hon am y  ddeddf  a basiwyd  gan Senedd Cymru i wahardd taro plant. Mae hon yn ddeddf hynod bwysig , un a ddylai ddiogelu hawl y plentyn i gael ei drin heb drais. Nid yw cofiwch yn golygu nad oes angen disgyblaeth arnynt  gan ddefnyddio’r tafod  neu’r llais yn aml iawn i achub ambell sefyllfa. Er, rwy’n dal i chwerthin wrth gofio llwyddo i atal  ffeit rhwng dwy ferch  adeg awr ginio ar balmant yn Aberteifi a dweud yn ddiweddarach wrth un o’r merched mwyaf di-wardd yn fy nosbarth ‘ mae eisie ichi ddangos ychydig o barch’, a’i chael yn fy ateb yr un mor chwim ‘ Beth yw ‘parch’ Miss? Ie wel… dyna wers i minnau i ddefnyddio iaith mwy  dealladwy.

Hoffais wrando ar ddarpar  farnwr i Lys Uchaf y wlad yn America,  Ketanji Brown Jackson yn ateb cwestiynau pigog sawl Gweriniaethwr mewn gwrandawiad wedi  ei henwebiad.  Mae gennyf yrfa fel barnwr ac rwy’n fam meddai, ac weithiau dwi ddim wedi cael y balans yn hollol iawn. Am onestrwydd a gwyleidd-dra. Dywedodd hyn wrth ateb  cwestiynau ymosodol  gan rai fel honno a ofynnodd iddi beth oedd ei diffiniad o ‘ fenyw’. Ni atebodd a  hwyrach y gwyddai mai ei bwriad oedd codi cwenc. Hwyrach mai’r unig ateb  gweddus yw mai ‘bod dynol’ yw.

Wrth ddechrau ysgrifennu’r golofn hon gwelais—gydag anghrediniaeth fel pawb arall — Will Smith yn cerdded i fyny at  lwyfan yr Oscars gan daro  y cyflwynydd  Chris Rock cyn cerdded yn ôl i’w sedd. Anghofiwch y ffrogiau afresymol o drafferthus, y siacedi gyda bronnau hanner ffordd mas a holl serendod y digwyddiad.  Roedd bod yn dyst i’r glatshen a’i chlywed hefyd fel bod yn rhan o’r weithred.  Ddealles i mo’r jôc sâl gyda llaw. Ond y pwynt yw iddo  darfu ar noson o  ddathlu a gwobrwyo doniau a mawrygu actorion a ffilmiau  sy’n mynd i roi boddhad i ni. Daeth ystyr arall i ‘Coda’ nos Sul diwetha

A dyna drueni. Mewn eiliadau,  a chyn derbyn  gwobr ei hun  llwyddodd i’w cholli hi. Fel y barnwr  uchel lys – gallai ef hefyd ddweud na chafodd y balans yn iawn yng ngolau dydd. A dyna fi’n cofio llunio llawlyfr ar agweddau treisiol i ysgolion uwchradd yn y nawdegau gyda’r gair holl bwysig ‘ ‘Canlyniadau’  sef ‘ Consequences’ , gêm  feddyliol a wnai i blant ystyried  –ac anadlu’n hir cyn ystyried taro’n  ôl, gan ddefnyddio system  goleuadau ‘r ffordd fawr: coch, chi’n grac,  oren chi’n dechrau sylweddoli eich bod yn grac ac yn llai crac,  yna gwyrdd, gan cerdded i ffwrdd yn ddianaf.

Diolch i  Senedd Cymru am arwain y ffordd i rieni allu trin plant heb eu taro. Ac i hwythau hefyd  ddysgu  ystyr y gair ‘ parch’  at oedolion.

Pin It on Pinterest

Share This