Bywgraffiad o waith y bardd Eluned Phillips. Dyma fywgraffiad hynaws ond beirniadol o un na chafodd y clod haeddiannol yn myd llenyddiaeth Gymraeg – a hynny cyfnod o newid mawr. Aeth o berfedd cefn gwlad Sir Gaerfyrddin i Baris a thu hwnt i faestref Los Angeles. Dioddefodd waradwydd gan rai ond cadwodd yn driw i’w hunan. Bardd eithriadol a’r unig ferch yn ystod yr ugeinfed ganrif i ennill dwy goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol.