Yn ferch i geidwad goleudy, mae Elida’n ysu am ryddid y môr. Er mor garedig yw ei gŵr, mae ei phriodas fel cawell amdani, y mynyddoedd yn cau o’i chwmpas, a hithau’n arnofio ym merddwr ei bywyd braf. Mae ymweliad rhyw ddieithryn yn corddi’r dyfroedd. Ond ai dieithryn yw ef mewn gwirionedd? Wrth iddi ddod wyneb yn wyneb â’r gorffennol cythryblus, yn sydyn rhaid gwneud y penderfyniad anoddaf un… aros neu ffoi?
Dyma stori garu fwyaf cyffrous Henrik Ibsen wedi ei chyfieithu i’r Gymraeg am y tro cyntaf erioed gan Menna Elfyn.