Colofn Gymraeg bob pythefnos yn y Western Mail, cyhoeddwyd gyntaf ar 5 Rhagfyr 2024.
‘Trugaredd sy’n gwybod’ oedd un o ddywediadau ein teulu ni pan oeddwn yn blentyn. Fel arfer fe’i ddywedwyd pan oeddwn yn cam ymddwyn am rywbeth neu gilydd. Cofio meddwl o’i ddweud fy hunan flynyddoedd wedyn — sut oedd trugaredd yn gwybod unrhyw beth? Onid gweithred oedd holl bwrpas trugaredd ?
Hynny ddaeth i’m meddwl wrth i mi wrando ar sylwadau pwyllog, dirdynnol gwleidyddion yn San Steffan yn trafod Cymorth neu’r hawl i farw o dan amgylchiadau arbennig. Fel sawl un arall, bum inne wrth erchwyn gwely aelod o’r teulu a gweld y nychu dyddiol (am chwe mis) yn hynod greulon hyd yn oed os medrwn glywed llais fy nhad yn dweud ‘Yn Dy Law y mae f’amserau’. Ond siawns na all hyd yn oed Duw ddeall y newid sydd i rai pethau yn y byd hwn?
Ydw, rwy o blaid y cynnig a basiwyd ac yn falch o’r aelodau seneddol o Gymru, o bob plaid a bleidleisiodd o’i blaid. Pob plaid, sylwch. Ydi, mae yna le i gytuno yn ein cyfnod eithafol o gwerylgar. Lle i wrando yn lle gweiddi. A barnu. Lle i faddau hefyd yn lle dymuno dialedd.
O law i law yr awn oll yn y diwedd, yn hwyr neu’n hwyrach gan ddymuno hedd, a dwylo tyner yn ein trin. Can llaw ? Onid ‘canllaw’ sydd eisiau ar bob un ar ddiwedd ei h/oes. – cael canllaw dros bont i osgoi’r dyfnder a’r difancoll sy islaw.
Trugaredd yw’r gair olaf a glywir o enau Arlywydd nesa America, Donald Trump. Er bod dileu ei achosion llys yn fater i mi ddweud yn uchel ‘ trugaredd sy’n gwybod’! Achos gwrthwyneb y gair trugaredd yw dialedd i Trump, yn erbyn ei ‘ elynion, gyda’i fab darogan newydd Elon- gair sy’n odli’n gras gydag ‘elynion’.
Dyna pam y deallaf i Joe Biden roi pardwn i’w fab Hunter Biden rhag dicter Trump a’i gyfeillion. Do, fe siomodd Biden lawer o dorri ei addewid. Ond dyma ddyn a gollodd wraig a’i ferch mewn damwain car – ef yn ei ugeiniau, yna, colli ei fab Beau i gancr rai blynyddoedd yn ôl. Yna, gweld Hunter yn gwella o grafangau cyffuriau – pwy ohonom na fyddai am ddiogelu unig fab yn erbyn dialedd dibendraw . Dychmygwch sut y teimlai pe gwelai gefnogwyr treisgar Trump ar Ionawr 6ed yn cael pardwn o’r troseddau mwyaf ofnadwy ?Ac yna’n erlid ei fab? Ai cael ei gofio fel Arlywydd ( aflwyddiannus efallai ) a fynnai neu fel tad a dosturiodd at ei fab meidrol.
Ar ddiwedd y dydd Ie, trugaredd sydd YN gwybod. Ebychiad sy’n llawn o’r anwybod. Dywediad enwog arall ar yr aelwyd o feirniadu rhywun yn hallt oedd hyn: bydd yn drugarog, mae bywyd yn galed ac ryn ni gyd yn ymladd brwydr galed!’Tosturi fo’r nod.