Colofn Gymraeg bob pythefnos yn y Western Mail, cyhoeddwyd gyntaf ar Ebrill 29 2021:
Weithiau, mae’r byd i weld yn sobr o chwithig. Ar yr union adeg pan mae galw mawr am ocsigen yn India i wrthsefyll y Covid yno, mae llawenhau bod Nasa yn cyhoeddi bod ocsigen wedi ei gynhyrchu o garbon diocseid ar blaned Mawrth. Rhyfedd o fyd.
Ddoe hefyd yr oeddwn yn ceisio canslo darlleniad i griw o feirdd yn India, gan ddweud y byddwn yn deall yn iawn nad dyma’r adeg i gynnal digwyddiad o’r fath. Dim o’r fath beth oedd yr ateb. Dyma’r union bryd y mae eisiau barddoniaeth arnom a ninnau, dan glo oherwydd y feirws. Felly, doedd dim amdani ond cadw at fy addewid. Er teimlo elfen o chwithdod hefyd.
Tybed faint o chwithdod a deimlodd Paula Vennells, un a fu’n Bennaeth y Swyddfa Bost pan gyhuddwyd 736 o bostfeistri ar gam o ddwyn. Roedd gweld eu llawenydd, a’u dagrau, wedi iddynt ennill eu hachos yn deimlad chwerwfelys. Rwy’n cofio’r achosion hyn, yn cofio carcharu pobl dda ein cymunedau, yn gynghorwyr ac yn hoelion wyth cymdeithas. Cafodd un fenyw feichiog ei charcharu er i’r barnwr grynhoi nad oedd tystiolaeth uniongyrchol iddi fod wedi dwyn yr arian. Ond dringo mannau uwch a wnaeth y Prif Weithredydd a dyrchafu i safleoedd eraill o rym. Cael hyd yn oed CBE wrth ei henw. Cam Bost Enbyd. Da clywed ei bod yn camu yn ôl o’i galwedigaeth yn arwain bywydau ysbrydol aelodau o’r Eglwys. Ac wrth feddwl am ddringo, diddorol oedd gweld bod ymweld â’r Wyddfa o hyn allan yn golygu gwell trefniadaeth. Mae’n rhaid bwcio mannau i barcio 24 awr ymlaen llaw. Eitha reit hefyd. Y bwriad mae’n debyg yw gwneud i ddringwyr ystyried pob anturiaeth a meddwl o ddifri cyn cychwyn o’u cartrefi. Nid ar chwarae bach mae dringo unrhyw gopa.
Copa neu glopa sydd yn dod i’r meddwl wrth feddwl am chwithdodau Boris Johnson. Sawl copa sydd wrth i’w concro? Cegin newydd, soffas, gwelyau. Go brin i neb feddwl y bydde llu o wleidyddion yn gorfod ateb cwestiynau ‘domestig’ ar ei ran! Proses? Ymchwiliad? Ond pwy dalodd? Cwestiwn syml ac ateb syml oni bai ei fod yn gwestiwn rhy chwithig i blaid asgell dde! Mae clywed rhywun fel Michael Gove, un a fu’n rhy dawel o lawer yn ddiweddar, yn dweud ei fod anghredadwy y byddai’r Prif Weinidog yn dweud y byddai’n well ganddo weld y cyrff wedi eu pentyrru cyn cael clo arall ddim cweit yn ateb y cwestiwn sylfaenol. Ond dyddiau chwithig yw’r rhain ac etholiad ar y gorwel.
Rwy’n teimlo’n chwithig wrth weld nifer y gwleidyddion sydd yn sefyll yn etholiad y Senedd ond sydd yn byw yn Lloegr. I aralleirio R.W Parry—chwyth o fath arall nawr– Chwyth ef/hi i’r Senedd neu chwyth ef i Seibiant. Neu ebargofiant.