First published in a fortnightly column in the Western Mail, 25 April 2024.
Rwy wastad wedi teimlo balchder o gael Senedd yng Nghaerdydd hyd yn oed os yw’r hyn a ddigwydd yno weithiau yn gwneud i rywun godi’n don o siomedigaeth. Ond mae’n dlawd o fyd pan yw yr ‘ychydig’ sefydliadau sydd gennym mewn perygl enbyd o gael hesgeuluso. Gair ar lafar i mi yw ‘dihwnto’. Mae clywed am y lleithder yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yna’r gofid am ddyfodol yr Amgueddfa yn destun pryder. Dyna ichi hefyd yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan, adnodd sydd yn hollbwysig i feithrin balchder ein plant yn eu treftadaeth. Mae meddwl am rywun fel y bardd a’r sefydlydd Iorwerth Peate yn cael y weledigaeth wedi iddo deithio i Sweden a gweld pethau’r werin yn cael eu parchu a’u diogelu yn chwerwfelys os yw’r cwbl i ddadfeilio dros amser.
A beth am y ddwy chwaer Gwendoline a Margaret Davies yn rhoi i’r genedl luniau a chasgliadau o’r cyfoeth a etifeddwyd ganddynt. Gwarth o beth fyddai gweld y rhain yn dirywio oherwydd diffyg gofal. Gennyf atgof hyfryd o wneud prosiect yn yr Amgueddfa Genedlaethol gyda phlant ysgolion Morgannwg yn cael dod i’r Amgueddfa a chael gweithdai ysgrifennu creadigol. Rwy’n dal i gofio wynebau syn a rhai ohonynt heb fod mewn amgueddfa o’r blaen ac yn cael dewis un o’r lluniau i ysgrifennu cerddi amdanynt. Rhoddodd y ddwy chwaer bob dim i gyfoethogi Cymru gyda’u rhoddion ac fel y dywedodd un ymwelydd o fod ym Mhlas Dinam a gweld lluniau Monet, Millet, Whistler a Turner. ‘a marvellous collection and thank God it is in Wales’.
Hwyrach fy mod yn disgwyl gormod oddi wrth ein Senedd, ac er angerdd rhai o’r wrth-blaid dros gelf, mae’n deg dweud nad yw’r llywodraeth yn San Steffan ychwaith yn cymryd mymryn o ddiddordeb yn y celfyddydau. Ar deledu , fe’u clywch yn hyrwyddo chwaraeon rif y gwlith neu gerddoriaeth poblogaidd weithiau ond am fyd y ddrama neu farddoniaeth, tila iawn yw eu diddordeb. Tybed pam? Ai am fod y celfyddydau yn eu bygwth gyda gwelediad amgen? Artistiaid sy’n mynegi barn amrywiol, delfrydgar? Neu gylchgronau’n llawn ysgrifau gwleidyddol heriol eu naws? Pryd y clywsoch wleidydd yn cyfeirio at lyfr a ddarllenwyd ganddo/ neu ganddi. Dyma her i’r gweinidog newydd ar ddiwylliant.
Ond dyna ni, falle mai wastad ar y tu fas yw lle y llenor. Rwy newydd gwblhau darllen Amos Oz, yr Iddew a ymdrechodd hyd at ei farwolaeth i leisio dros hawl Palesteiniaid i gael byw fel cenedl. Meddai, yn ‘Dear Zealots: I love Israel even when I can’t stand it.’ Aiff ymlaen i ddweud ei fod yn hoffi bod yn ddinesydd mewn gwlad lle mae 8 a hanner Prif Weinidog, 8 a hanner o Broffwydi, wyth a hanner Meseias gyda pawb yn gweiddi ond ychydig sy’n gwrando.