Ganrif yn ôl roedd ymgais i ddosbarthu’r afonydd yn ôl adegau’r pysgod a oedd yno. Astudio’r afon a wnaem yn blant, a’r pysgod yno a’u canfod hefyd am fod y dŵr mor dryloyw. Er mai rhywbeth arall oedd eu dal ac yn amlach na pheidio llwyddai fy mrawd i ddal haig o lyswennod! Pan oeddwn yn byw yng Nghenarth, roeddwn wrth fy modd yn gwylio o hirbell y pysgotwyr dawnus ar lan yr afon ac o’r ochr arall, ffolwn ar weld yr eogiaid yn llamu yn y dŵr rhaeadrog gwyn. Ie, gwyn a glân oedd y darlun a gofiwn ei weld gan ysgrifennu cerdd a ddechreuodd gyda ‘Mae dwy ochr i fywyd, fel sydd i afon Cenarth’.
Gallwn ddweud mai dwy ochr sydd i’r afon neu’r afonydd heddi. Ar y naill law, clywn am rai wrth eu boddau yn nofio yn y gwyllt os nad YN wyllt! Cofio gyrru lawr drwy Abergwesyn ym misoedd oer y flwyddyn a gweld hanner dwsin o fenywod yn eu hoed a’u hamser yn eu dillad nofio. Pwy fyddai am wrthod iddynt y fath fwynhad?
Ond o’r ochr arall, diflannodd hud a lledrith yr afon gyda’r holl lygredd a charthffosiaeth sydd yn cael ei arllwys i’r afonydd yn gyson. Synnais o weld ffilm o’r bryntni yn cael ei ollwng. A dyna pam yr oedd mor warthus gweld y Llywodraeth yn San Steffan yn gwneud eu gorau glas (neu budr) i beidio â rhoi stop ar hyn a’r cwmniau sy’n gyfrifol am eu gweithredoedd atgas. Unwaith eto, bu’n rhaid i leisiau croch orfodi’r llywodraeth – yr un llywodraeth ac sydd ar fin cynnal Cop26 lle byddan nhw’n pregethu’r angen am wella’r greadigaeth, i osod yn y ddeddf ddarpariaeth at wella’r sefyllfa. Llyswennod sy’n siglo nôl ac ymlaen yw’r rheiny a geisiodd osgoi gweithredu. Pwy biau’r dŵr a yfwn? Gellir codi llawer o gwestiynau cymdeithasol a gwleidyddol am y ffordd y preifateiddiwyd dŵr a’i effeithiau cyfalafol — heblaw Dŵr Cymru a ddewisodd y llwybr nid- am-elw.
Daw yn ôl at ein gwerthoedd ni unwaith eto, ac at hanfod y ffaith mai rhywbeth ysbrydol yw dŵr, y dylid ei barchu fel adnodd amgylcheddol ac ymgeleddol. A daeth hi’n bryd inni oll ystyried tolio ar ein defnydd ohono. A dyma feddwl am yr oesau a fu, pan gafwyd ffynhonnau bywiol mewn gwahanol fannau i ddisychedu fforddolion. Gennyf atgofion melys hefyd am ffynnon Llysderi, Drefach, Felindre lle roedd casglu dŵr yn un o’r dyletswyddau cyntaf a wnawn adeg y gwyliau, yng nghartref fy mam-gu a’m tadcu.
Bellach, mae pysgotwyr yn poeni am nad yw’r afonydd fel y buon nhw slawer dydd a’r pysgod wedi prinhau. Does dim eogiaid fel cynt, meddant. Prysuraf ddweud mai ni yw’r ‘euogiaid’ newydd yn nofio mewn llygredd.