Wcrain

Feb 19, 2022

Ukrainian flag

Mae’n ddyddiau ansicr  i’r Wcrain  i Rwsia ac i’r byd. Os bu gêm ryfela, hon oedd hi. Wrth  lunio’r golofn ar Chwefror 1af, does neb yn rhyw siŵr iawn, heblaw un dyn efallai o’r  ffordd y bydd y gwynt yn chwythu. Os bu galw am ddoethineb, dyma’r adeg i oeri geiriau, i arfer pwyll, ac i sicrhau na fydd yna eiriau i gorddi’r lluoedd. Mae eisie— a dyma fy hoff ddywediad o  Geredigion – santageg — sef  sant y geg, un gofalus  a’i eiriau yn distewi’r dyfroedd.

Gen i atgofion dymunol am yr Wcrain. Cyrraedd  Donetsk yn yr eira mawr ac yn hytrach na’r arferol  griw yn fy ngwarchod, cefais ryddid i ffeindio fy ffordd fy hun o gwmpas y ddinas. Yno, yn y Brifysgol yr oeddwn i gynnal gweithdai am wythnos gyda’r myfyrwyr a gasglwyd o wahanol rannau o’r Wcrain: o Odessa, o’r Crimea (sydd bellach wedi ei fachu yn ôl i gôl Rwsia), a mannau eraill fel Kyiv. Doedd neb yn adnabod ei gilydd, rhai yn ysgrifennu mewn Wcraneg  ac eraill  mewn Rwseg. A rhyw  gymysgedd rhyfedd o Saesneg rhyngom. Beth oedd i’w wneud felly?  Wel, dyma fi’n  cyflwyno ‘ Under Milk Wood ‘ iddynt a’u cael i lunio rhyw gymeriadau difyr o’u gwahanol gymunedau. A dyna greu ‘cosmos’ bach arbennig, a  drama ddifyr amlieithog  ddiwedd yr wythnos ac roedd da o ddwy wlad  mewn darlithfa  wedi creu heddwch.

Pan gyrhaeddais Kiev cefais fy ngwarchod go iawn gan wraig a oedd am i mi wybod mor Rwsiaidd oedd yr Wcrain, a mynnodd i ni ymweld â’r holl fannau lle roedd meini cofio am y rhai a gollodd eu bywydau yn y Rhyfeloedd Byd.  Roedd yn ysgytwad wir, ac er dysgu am golledion Rwsia  wrth astudio hanes yn yr ysgol, mae’n wir dweud nad ydym wedi cydnabod cyfraniad Rwsia yn ddigonol gan gredu mai ni’r Gorllewin biau unrhyw fuddugoliaethau.  Nid bod hynny’n cyfiawnhau bygythiadau Putin heddiw o gwbl. Ond beth yw’r ateb?

Dwi ddim yn leicio rhyfeloedd meddai un bardd, achos yn y diwedd maen nhw’n troi’n gofgolofnau. Neu sylw un arall, ‘wedi pob rhyfel bydd yn rhaid i rywun lanhau’r llanast’.  Neu’r bardd o Irac a adroddodd wrthyf unwaith, ‘Golles i wlad ddoe’.

Pan oeddwn yn Donetsk cerddwn allan o’m gwesty  a phasio  cofgolofn Lenin ar y sgwâr. Dyna pryd y byddwn yn gwybod bod eisie imi droi i’r dde i gyrraedd y Brifysgol. Mynd yn bwyllog ofnus ar hyd y strydoedd oedd yn drwch o eira a wnes gan synnu wrth weld myfyrwyr yn hwylio heibio imi mewn bŵts sodlau main. Hwyrach iddyn nhw hen gyfarwyddo  â delio  gydag oerfel  ac yn wydn. Boed anwybod yn obaith gyda ‘ sant y geg’.

Pin It on Pinterest

Share This